Cologne
Cynhelir chwe marchnad Nadolig yn Cologne. Saif y Farchnad Nadolig ar yr Altermarkt mewn safle bendigedig yn yr hen dref. Wrth ddilyn y strydoedd siopa "Hohe Strasse" a "Schildergasse", fe ddowch at y Farchnad Nadolig yn Neumarkt ac yna ymlaen i "Farchnad y Tylwyth Teg" yn Rudolfplatz. Cynhelir y Farchnad Nadolig ddifyr "am Dom" o dan gysgod yr Eglwys Gadeiriol. Mae ymweld â'r farchnad Ganoloesol a'r farchnad ar long yn brofiad diddorol a gwahanol.
Cliciwch yma am restr lawn o wibdeithiau posib i gyd-fynd â'ch ymweliad â'r marchnadoedd 'Dolig.
Aachen
Aachen yw'r agosaf o'r ddwy ddinas ac mae'n ddelfrydol ar gyfer trip deuddydd i fwynhau taith o amgylch y ddinas a chrwydro'r marchnadoedd 'Dolig. Fel arall, gallai'ch grŵp aros yn y ddinas a mentro ychydig ymhellach, gan ymweld o bosib â Cologne a Bonn.
Parc Thema Phantasialand
Beth am gael hwyl a sbri ym mharc Phantasialand yn Brühl, ger Cologne? Mae yna lond lle o reidiau dan do ac awyr agored, sioeau gwych a digon i gadw ymwelwyr iau yn brysur. Mae'r amgylchedd caeedig, diogel yn ddelfrydol ar gyfer grwpiau ac ysgolion. Rydyn ni'n argymell eich bod chi'n treulio diwrnod cyfan yn y parc.
Ehrenbreitstein
Saif Caer Ehrenbreitstein, yr ail gaer fwyaf yn Ewrop ar ôl Gibraltar, ymhell uwchlaw'r Rhein. Ceir golygfa ysblennydd ar draws yr afon i lawr i "Deutsches Eck". Gallwch gael taith dywys o amgylch y gaer yn Saesneg neu Almaeneg i ddysgu mwy am hanes yr ardal ers dechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Koblenz
Saif tref Koblenz ynghanol godidogrwydd y Rhein a dyffrynnoedd Mosel ac mae digon o henebion diwylliannol ac adeiladau hanesyddol diddorol i'w gweld yno. Gallwch grwydro lonydd cul y dref, ymlacio ar un o'r sgwariau neu fynd am dro hamddenol ar lan yr afon. Mae Koblenz yn dref braf i ymweld â hi.
Deutsches Museum Bonn
Cyfle i ddysgu am hanes a datblygiad gwyddoniaeth a thechnoleg yn yr Almaen a gweddill y byd ers 1945. Dangosir y datblygiadau yng nghyd-destun datblygiad gwleidyddol ac economaidd yr Almaen ers y rhyfel. Nod yr arddangosfa yw dangos pwysigrwydd gwyddoniaeth a thechnoleg i'r Almaenwyr wrth iddyn nhw gystadlu â gweddill y byd. Gallwch gael taith dywys yn Saesneg neu Almaeneg.
Beethoven Haus
Y tŷ lle ganwyd Beethoven yw un o atyniadau mwyaf poblogaidd Bonn. Wrth ymweld â deuddeg ystafell yr Amgueddfa, gallwch gamu'n ôl i gyfnod Beethoven a dysgu mwy am fywyd a gwaith y meistr ei hun.
Guggenheim Bonn
Benthycir detholiad o waith o amgueddfa enwog Efrog Newydd i greu arddangosfeydd dros dro o waith rhai o'r arlunwyr cyfoes amlycaf. Mae'r rhain i'w gweld ar lawr gwaelod y Kunstmuseum.
Bonn
Mae Bonn yn enwog am ddau beth: dyma oedd prifddinas Gorllewin yr Almaen tan yr ailuno ac yma y ganwyd Beethoven, un o gyfansoddwyr enwocaf y wlad. Ond, fel Cologne, mae Bonn yn dyddio'n ôl i Oes y Rhufeiniaid ac mae digon i'w weld a'i wneud yma. Gallwch fynd ar daith o amgylch y ddinas, ymweld ag amgueddfa neu fwynhau holl liw a bwrlwm y marchnadoedd Nadolig
Marksburg
Dyma un o gestyll gorau'r Almaen, enghraifft brin o hanes sydd heb newid fawr ddim dros y blynyddoedd. Saif uwchlaw tref Braubach, sef enw gwreiddiol y castell, ar lan ddwyreiniol y Rhein gyda golygfeydd ysblennydd o'r afon. Ar wahân i'r ychwanegiadau a'r gwaith cynnal a chadw dros y canrifoedd, mae Marksburg fwy neu lai fel ag yr oedd pan roedd yn cael ei ddefnyddio'n wreiddiol fel cadarnle i rai o bwysigion hanes yr Almaen. A dweud y gwir, yr unig ddifrod difrifol iddo ddioddef mewn rhyfel oedd pan ymosodwyd arno o lan orllewinol y Rhein tuag at ddiwedd yr Ail Ryfel Byd. Ffoniwch am wybodaeth am deithiau tywys.
Boppard
Mae Boppard yn dref hyfryd ag iddi hanes hir a difyr. Mae cyfoeth hanesyddol dyffryn Rhein wedi helpu i wneud y dref yn lle deniadol iawn i ymwelwyr.
Os ydych chi'n ymweld adeg y Nadolig, mae Rüdesheim a Boppard yn cynnal marchnadoedd Nadolig bach. Er eu bod yn llawer llai na marchadoedd Cologne, chewch chi mo'ch siomi.
Rüdesheim
Saif tref ddeniadol Rudesheim ar afon Rhein ac mae'n cynnwys enghreifftiau gwych o bensaernïaeth yr Oesoedd Canol. Ewch i fyny yn y lifft gadair i weld heneb Niederwald a mwynhau rhai o'r golygfeydd gorau o ddyffryn Rhein. Bydd Cwpwrdd Cerddoriaeth Mecanyddol Siegfried, sydd ag enghreifftiau bendigedig o focsys cerddoriaeth ac offerynnau mecanyddol hanesyddol eraill, yn apelio i fyfyrwyr cerddoriaeth neu ymwelwyr iau.
Ymweliadau eraill yn Aachen
Gallwch hefyd ddewis ymweld â Neuadd y Dref neu'r Rathaus, Amgueddfa Couven sy'n edrych ar fywyd yn y ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, amgueddfa'r Wasg Ryngwladol a'r amgueddfa gyfrifiaduron.
The Ludwig Forum for International Art
Mae'r oriel hon yn amgueddfa gwbl unigryw. Mae gwahanol fathau o gelfyddyd gyfoes yn cael eu cyflwyno yma mewn modd rhyngweithiol. Mae gwahanol fathau o gelfyddyd weledol yn cael eu hategu gan arddangosiadau o gelfyddydau perfformio, gan gynnwys cerddoriaeth, dawns, barddoniaeth a ffilm, i roi gwledd o gelfyddyd gyfoes.
Amgueddfa Suermondt-Ludwig
Gallech ddechrau'ch taith o'r amgueddfa yn y byd cyfoes a chamu'n ôl i'r Oesoedd Canol. Y prif atyniadau yw'r casgliad rhagorol o bortreadau a cherfluniau o ddiwedd yr Oesoedd Canol a phaentiadau o'r ail ganrif ar bymtheg
Eglwys Gadeiriol Aachen
Mae'r Eglwys Gadeiriol hon yn safle treftadaeth y byd arbennig iawn. Mae craidd yr adeilad yn dyddio'n ôl 1200 o flynyddoedd ac mae'n un o eglwysi cadeiriol mwyaf diddorol Gorllewin Ewrop. Gallwch ymweld â bedd Siarlymaen, safle coroni Brenhinoedd yr Almaen a safleoedd pwysig i bererinion yn ogystal â Thrysor yr Eglwys Gadeiriol, sy'n hynod werthfawr - mae Eglwys Gadeiriol Aachen yn esiampl heb ei hail o hanes diwylliannol.
Taith gerdded
Dyma'r ffordd orau o fwynhau atyniadau Aachen. Cewch eich tywys ar hyd lonydd cul a sgwariau hanesyddol yr Hen Dref a chael eich ysbrydoli gan bron i 2000 o flynyddoedd o hanes.
Teithiau ar gwch
Dyma ffordd wych o werthfawrogi dyffryn godidog y Rhein. Gallwch hwylio'n hamddenol i drefi prydferth Boppard, Bonn neu Rüdesheim, treulio'r diwrnod yn crwydro'r strydoedd canoloesol ac yna dychwelyd ar fws. Os am deithio ar gwch ar afon Rhein, noder fod y cwmnïau cychod yn cyfyngu ar eu gwasanaeth yn ystod y gaeaf ac felly efallai na fydd hi'n bosib teithio ar gwch i'r trefi hyn o Cologne.
Ceir teithiau arbennig adeg y Nadolig, gyda chyfle i fwynhau diod boeth a darn o deisen Stollen ar y cwch. Rhowch wybod os hoffech chi'r opsiwn hwn.
Amgueddfa Ludwig
Amgueddfa Ludwig yw cartref y casgliad mwyaf o Gelfyddyd Bop y tu allan i America. Gallwch weld gwaith Warhol, Lichtenstein a Segal yn ogystal â chasgliad mawr o waith Picasso a gwaith arlunwyr mynegiadol.
Amgueddfa Chwaraeon
Mae'r amgueddfa'n olrhain hanes chwaraeon cystadleuol o'r Gemau Olympaidd cyntaf yng Ngwlad Groeg i rai o chwaraeon mwyaf llwyddiannus yr Almaen: Fformiwla 1, Gemau Olympaidd y Gaeaf a phêl-droed. Gallwch weld rhoddion gan chwaraewyr enwog ac mae arddangosfeydd arbennig ar gyfer Gemau Olympaidd Berlin 1936 a digwyddiadau erchyll Gemau Olympaidd 1972 ym Munich. Rydyn ni'n argymell eich bod chi'n trefnu taith dywys, yn Saesneg neu Almaeneg, i fanteisio'n llawn ar yr amgueddfa hon.
Stollwerck Schokoladenmuseum
Dyma amgueddfa i dynnu dŵr o'ch dannedd! Siocled, siocled a mwy o siocled - y lle i fynd os oes gennych chi ddant melys! Mae'r amgueddfa'n olrhain hanes gwneud siocled a'r broses ei hun ac yn dangos deunyddiau marchnata a chelfwaith sydd wedi cael eu defnyddio gydol hanes y diwydiant. Uchafbwynt yr ymweliad yw gweld y siocled yn cael ei wneud ac yna cael cyfle i'w flasu mewn ffynnon siocled euraidd. Wrth gwrs, allwch chi ddim gadael heb bicio i'r siop i brynu ychydig o ddanteithion!
Eglwys Gadeiriol Cologne
Yr eglwys gadeiriol yw symbol unigryw Cologne. Ym 1998, cafodd ei chynnwys ar Restr Treftadaeth y Byd UNESCO. Dyma atyniad mwyaf poblogaidd yr Almaen, ac mae'n denu dros chwe miliwn a hanner o ymwelwyr y flwyddyn. Y tu mewn, cewch weld y cysegr euraidd sy'n cynnwys creiriau'r Tri Gŵr Doeth a llawer o wrthrychau celf gwerthfawr eraill.
Teithiau Cerdded
Mae Cologne wedi bod yn ganolfan fasnach, crefydd a chelfyddyd ers yr Oesoedd Canol ac erbyn heddiw hi yw'r bedwaredd ddinas fwyaf yn yr Almaen. Gallwch grwydro'r ddinas hynafol hon ar droed a dysgu am ei hanes yn ôl i Oes y Rhufeiniaid yn Saesneg neu Almaeneg gan eich tywysydd. Nid yw taith gyffredinol o'r ddinas yn cynnwys taith o amgylch yr eglwys gadeiriol, ond gellir ychwanegu'r tâl mynediad at y gost. Gallwch hefyd drefnu taith dywys o'r eglwys gadeiriol ar wahân. Mae'r daith yn para tua awr.
Fernsehturm
Dyma adeilad uchaf Berlin lle gallwch fwynhau golygfeydd rhagorol 203 metr uwchlaw'r ddinas. Mae'n lle gwych i ddod yn ystod y dydd neu'r nos ac mae'n ffordd ddelfrydol o dreulio min nos yng nghanol y ddinas. Ceir gwybodaeth am yr atyniadau y gellir eu gweld yn Saesneg ac Almaeneg
Reichstag
Mae'r adeilad hwn yn symbol o hanes newidiol yr Almaen. Ers 1999, dyma gartref Senedd yr Almaen a gallwch ymweld â'r adeilad i'w edmygu a mwynhau golygfa heb ei hail o'r ddinas o'r gromen wydr.
Bundesrat
Bydd taith yn Saesneg neu Almaeneg yn eich tywys drwy swyddfeydd y senedd a bydd cyfle i chi gael cipolwg ar y siambr drafod a dysgu am y system o greu cyfreithiau. Mae teithiau'n para awr gydag amser ar y diwedd i chi ofyn cwestiynau
Palas Charlottenburg, Neues Palais a Pharc Sanssouci
Palas Charlottenburg yw palas mwyaf Berlin. Fe'i hadeiladwyd mewn sawl cam ac fe'i bwriadwyd fel tŷ haf i Sophie Charlotte, gwraig Frederick III. Saif y palas yng ngerddi'r Neues Palais ym mharc bendigedig Sanssouci.
Amgueddfa Pergamon
Uchafbwynt yr amgueddfa yw'r adran ar henebion Groegaidd a Rhufeinig, yng ngogledd a dwyrain yr adeilad. Ewch i'r neuadd ganolog i weld yr Allor Pergamon enfawr, sy'n llenwi'r ystafell eang. Mae'r amgueddfa NearEast yn ne'r adeilad yn cynnwys un o gasgliadau mwya'r byd o henebion o wledydd hynafol Babilonia, Persia ac Asyria. Tra bod llwythau cyntefig yn dal i reoli yn Ewrop, roedd pobl y gwledydd hyn wrthi'n creu nwyddau ceramig, gwydr a metel. Mae llawr uchaf yr amgueddfa'n canolbwyntio ar Gelf Islamaidd. Dylech neilltuo o leiaf 2 awr i ymweld â'r amgueddfa.
Potsdamer Platz
Dyma ochr fodern Berlin. Yma gallwch weld adeiladau trawiadol Daimler-Chrysler a Beisheim, siopa yn yr Arcedau a chamu i'r dyfodol yn y Sony Centre. Gallech weld ffilm yn y sinema CineStar Original neu'r sinema IMAX®, ymweld â'r Sony Style Centre neu gymryd saib i fwyta ac yfed yn un o'r bistros di-ri. Os mai ffilmiau sy'n mynd â'ch bryd, peidiwch â cholli'r Filmmuseum sy'n canolbwyntio ar y byd ffilm a hanes y diwydiant ffilm yn Hollywood a Berlin.
Guggenheim
Saif yr oriel gelf enwog hon ar lawr gwaelod y Deutsche Bank ar gornel Unter den Linden. Mae'r arddangosfeydd yn newid pedair gwaith y flwyddyn ac mae teithiau tywys ar gael yn Saesneg neu Almaeneg. Mae hefyd siop lle gallwch brynu llyfrau am yr arddangosfeydd a chaffi bach braf, y Kaffeebank, lle gallwch gael 'Kaffee und Kuchen' ar ôl eich ymweliad a mwynhau'r atriwm to gwydr yn yr hen fanc. Gellir trefnu teithiau tywys.
Teithiau Cwch
Beth am weld y ddinas ar gwch? Mae taith ar hyd afon Spree a chamlesi'r ddinas yn rhoi golwg ramantus i chi o ganol y ddinas. Yn yr haf, does dim byd gwell na thaith min nos ar yr afon ar ôl swper. Mae'r teithiau'n para awr. Gallwch gael sylwebaeth Saesneg
Haus der Wansee Konferenz
Ar 20 Ionawr 1942, cyfarfu pymtheg o uwch weision sifil a swyddogion yr SS yn y tŷ hwn i drafod y cynllun i ddelio unwaith ac am byth ag Iddewon Ewrop; eu halltudio i'r Dwyrain a'u llofruddio. Dyma oedd yr Ateb Terfynol neu'r "Final Solution". Hanner can mlynedd yn union wedi'r gynhadledd frawychus honno, agorwyd cofeb a chanolfan addysg yn y fila. Heddiw, mae'n gartref i arddangosfeydd o gyfundrefn y Sosialwyr Cenedlaethol a hanes yr Iddewon. Gallwch gael taith dywys yn Saesneg neu Almaeneg, sy'n para 2 awr.
Gedenkstätte Deutsche Wiederstand
Mae'r Gofeb hon yn deyrnged i ymdrechion grwpiau gwahanol o bobl a wrthwynebodd y Natsïaid. Gallwch gael taith dywys o'r arddangosfeydd yn Saesneg neu Almaeneg. Dylech neilltuo dwy awr ar gyfer yr ymweliad hwn.
Deutsches Historisches Museum
Mae'r amgueddfa hon yn cynnwys cyfres o arddangosfeydd parhaol sy'n olrhain hanes yr Almaen o'r flwyddyn 100 OC i'r ugeinfed ganrif a'r ddau ryfel byd. Nod yr arddangosfeydd yw helpu ymwelwyr i ddeall hanes y wlad ac maen nhw'n cynnwys gwisgoedd, gwrthrychau bob dydd ar hyd yr oesoedd, gwrthrychau milwrol a gweithiau celf, ffotograffiaeth, technoleg, peirianneg a ffilm. Mae'n amgueddfa fawr a hwyrach na fyddwch am ymweld â phob arddangosfa. Dylech neilltuo dwy awr.
Checkpoint Charlie
Sefydlwyd "Haus am Checkpoint Charlie" i olrhain hanes protestiadau heddychlon yn erbyn y gormes fu ar hawliau dynol. Saif ger safle'r "porth" rhwng Dwyrain y ddinas a'r Gorllewin. Dros y blynyddoedd, maen nhw wedi cofnodi ymdrechion di-ri i ddianc o'r Dwyrain ac wedi casglu pethau sy'n gysylltiedig â'r ymdrechion hyn. Yn eu plith mae lluniau o ymgais un teulu i ddianc mewn balwn awyr, copi maint llawn o seinydd system sain y cuddiodd un ferch ynddo i groesi'r ffin a char tu hwnt o fach a lwyddodd i gludo llaweroedd i'r Gorllewin mewn sawl taith. Mae hyd yn oed dymi maint person wedi'i guddio yn y car - eich sialens chi yw dod o hyd iddo. Gallwch hefyd werthfawrogi gwaith celf a ysbrydolwyd gan Wal Berlin a lluniau arlunwyr o'r wal ei hun. Mae'r amgueddfa hefyd yn rhoi gwybodaeth am ymgyrch heddychlon fyd-eang Ghandi dros hawliau dynol. Gallwch gael taith dywys yn Saesneg neu Almaeneg - dylech neilltuo dwy awr ar gyfer yr ymweliad.
Topografie des terrors
Arddangosfa awyr agored dros dro oedd hon yn wreiddiol ond mae bellach yn un barhaol. Fe'i lleolir yn yr ardal a oedd yn gartref i'r sefydliadau a fu'n gyfrifol am bolisïau gormesol ac anghyfreithlon y Sosialwyr Cenedlaethol. Bwriad y Topography of Terror Foundation yw darparu gwybodaeth am hanes Sosialaeth Genedlaethol a'i throseddau yn ogystal â dod â phobl wyneb yn wyneb â'r hanes hwn a'i effaith ers 1945. Mae taith dywys yn Saesneg neu Almaeneg yn para tua awr a hanner.
Alliiertenmuseum
Mae Amgueddfa'r Cynghreiriau yn olrhain hanes meddiannaeth yr Almaen wedi'r Ail Ryfel Byd gan y pedwar pŵer - Prydain, yr Unol Daleithiau, Ffrainc a'r Undeb Sofietaidd - a'u cynlluniau i ryddhau ac ailadeiladu'r wlad. Mae'n dangos sut i'r berthynas rhwng y Sofietiaid a'r tair gwlad arall chwerwi gan arwain at y Rhyfel Oer. Mae'n dangos rhan Berlin yn y rhyfel, a gyrhaeddodd benllanw wrth i Wal Berlin gael ei dymchwel ym 1989. Mae teithiau tywys ar gael yn Saesneg neu Almaeneg sy'n para awr
Gedenkstätte Sachsenhausen
Rhwng 1936 a 1945, alltudiwyd dros 200,000 o garcharorion i Sachsenhausen o bob cwr o Ewrop. Cafodd carcharorion gwleidyddol eu caethiwo yno hefyd pan oedd yr Undeb Sofietaidd mewn grym. Mae'r gwersyll bellach yn gofeb ac yn ganolfan addysg ac mae'n cynnal rhaglen o arddangosfeydd sy'n newid yn gyson. Gall ymwelwyr weld yr ystafelloedd lle'r oedd y carcharorion yn cysgu a chyfleusterau trychinebus o wael y gwersyll. Mae rhai o adeiladau'r siambrau nwy yn dal i sefyll ac mae'r tyrau gwylio a'r ffensys weiren bigog yn atgof arswydus o ddioddefaint y carcharorion. Byddem ni'n argymell yr ymweliad hwn ar gyfer disgyblion dros 14 oed oherwydd ei fod yn brofiad ysgytiol - ond yn amlwg, yr athro sydd i ddewis. Gallwch gael taith dywys yn Saesneg neu Almaeneg sy'n para tua 2 awr.
Cofeb yr Holocost
Comisiynodd llywodraeth yr Almaen y Gofeb i'r Iddewon a Lofruddiwyd yn Ewrop i fod yn brif safle cofio'r Holocost yn yr Almaen er mwyn coffáu'r chwe miliwn a fu farw. Mae'r gofeb, a saif ger Porth Brandenburg, yn cynnwys Maes Stelae - blociau concrid llwyd enfawr a dramatig sy'n amrywio o ran maint. Mae Maes Stelae ar agor i'r cyhoedd ddydd a nos. Mae'r patrwm grid yn cynnwys 2,711 o stelae concrid, ac mae modd i'r ymwelydd gerdded trwyddynt o bob cyfeiriad, gan ddewis ble i ddechrau a gorffen y daith. Mae'r Ganolfan Wybodaeth danddaearol yng nghornel de-ddwyreiniol y gofeb drawiadol hon yn darparu gwybodaeth am y dioddefwyr, y mannau lle cawsant eu llofruddio a'r safleoedd coffa sy'n bodoli heddiw. Mae taith trwy'r Ganolfan Wybodaeth yn cychwyn trwy ddysgu am bolisi lladd y Natsïaid rhwng 1933 a 1945. Mae cyfres o wybodaeth a lluniau yn dangos sut y datblygodd yr Holocost a'r broses o ladd yr Iddewon yn Ewrop, yn ogystal â'r broses o erlid a llofruddio grwpiau eraill o ddioddefwyr.
Gellir trefnu taith Saesneg neu Almaeneg er mwyn cael cyflwyniad i'r safle coffa a'r ganolfan ymwelwyr.
Amgueddfa'r Iddewon
Mae'r amgueddfa hon yn ddifyr tu hwnt ac yn dathlu 2000 mlynedd o hanes, diwylliant a hunaniaeth yr Iddewon. Mae cynllun yr adeilad hyd yn oed yn atyniad ynddo'i hun. Cynlluniwyd yr adeilad gan y pensaer Americanaidd, Daniel Liebeskind, ar ffurf Seren Dafydd wedi'i thorri, sy'n symbol o ddistryw'r Iddewon. Mae digonedd o weithgareddau rhyngweithiol yma sy'n ffordd wych o ddysgu a gall disgyblion ddysgu ysgrifennu eu henwau yn Hebraeg, dysgu am y gwahanol elfennau o ddiet Kosher a gweld â'u llygaid eu hunain sut oedd bywyd yn y getoau Iddewig ar ddechrau'r Ail Ryfel Byd. Gallwch gael taith dywys yn Saesneg neu Almaeneg ar thema o'ch dewis. Dylech neilltuo 2 awr ar gyfer yr ymweliad
Hanes Berlin/The Story of Berlin
Mae'r arddangosfa amlgyfrwng hon yn olrhain hanes y ddinas o'r drydedd ganrif ar ddeg i'r presennol. Mae'r arddangosfeydd a'r effeithiau arbennig yn ffordd effeithiol iawn o gyfleu rhai o'r digwyddiadau pwysicaf yn hanes diweddar yr Almaen. Mae'r arddangosfa ar adeiladu Wal Berlin, er enghraifft, yn cynnwys ffilmiau gwreiddiol o'r diwrnod y codwyd y Wal. Mae taith dywys yn Saesneg neu Almaeneg hefyd yn cynnwys taith o'r byncer niwclear o dan y Kudamm, a adeiladwyd i amddiffyn pobl Berlin rhag ymosodiad niwclear yn y Rhyfel Oer. Dylech neilltuo awr a hanner ar gyfer eich ymweliad.
Teithiau Cerdded
Mae cymaint o bethau i'w gweld a'u gwneud yn Berlin, mae'n anodd gwybod yn iawn ble i ddechrau. Rydyn ni'n argymell eich bod chi'n mynd ar daith o amgylch y ddinas, naill ai ar droed neu ar fws, er mwyn i chi gynefino â'r lle. Mae pob math o deithiau ar gael, yn dibynnu ar beth sy'n mynd â'ch bryd - celfyddyd, pensaernïaeth, hanes, cerddoriaeth neu wleidyddiaeth, neu gallwch ganolbwyntio ar naill ai gorllewin, canol neu ddwyrain y ddinas. Mae'r teithiau'n para tua 3 awr, yn dibynnu ar eich dewis. Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth.