Parc Thema Phantasialand

Beth am gael hwyl a sbri ym mharc Phantasialand yn Brühl, ger Cologne? Mae yna lond lle o reidiau dan do ac awyr agored, sioeau gwych a digon i gadw ymwelwyr iau yn brysur. Mae'r amgylchedd caeedig, diogel yn ddelfrydol ar gyfer grwpiau ac ysgolion. Rydyn ni'n argymell eich bod chi'n treulio diwrnod cyfan yn y parc.


Ehrenbreitstein

Saif Caer Ehrenbreitstein, yr ail gaer fwyaf yn Ewrop ar ôl Gibraltar, ymhell uwchlaw'r Rhein. Ceir golygfa ysblennydd ar draws yr afon i lawr i "Deutsches Eck". Gallwch gael taith dywys o amgylch y gaer yn Saesneg neu Almaeneg i ddysgu mwy am hanes yr ardal ers dechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg.


Koblenz

Saif tref Koblenz ynghanol godidogrwydd y Rhein a dyffrynnoedd Mosel ac mae digon o henebion diwylliannol ac adeiladau hanesyddol diddorol i'w gweld yno. Gallwch grwydro lonydd cul y dref, ymlacio ar un o'r sgwariau neu fynd am dro hamddenol ar lan yr afon. Mae Koblenz yn dref braf i ymweld â hi.


Deutsches Museum Bonn

Cyfle i ddysgu am hanes a datblygiad gwyddoniaeth a thechnoleg yn yr Almaen a gweddill y byd ers 1945. Dangosir y datblygiadau yng nghyd-destun datblygiad gwleidyddol ac economaidd yr Almaen ers y rhyfel. Nod yr arddangosfa yw dangos pwysigrwydd gwyddoniaeth a thechnoleg i'r Almaenwyr wrth iddyn nhw gystadlu â gweddill y byd. Gallwch gael taith dywys yn Saesneg neu Almaeneg.


Beethoven Haus

Y tŷ lle ganwyd Beethoven yw un o atyniadau mwyaf poblogaidd Bonn. Wrth ymweld â deuddeg ystafell yr Amgueddfa, gallwch gamu'n ôl i gyfnod Beethoven a dysgu mwy am fywyd a gwaith y meistr ei hun.


Guggenheim Bonn

Benthycir detholiad o waith o amgueddfa enwog Efrog Newydd i greu arddangosfeydd dros dro o waith rhai o'r arlunwyr cyfoes amlycaf. Mae'r rhain i'w gweld ar lawr gwaelod y Kunstmuseum.


Bonn

Mae Bonn yn enwog am ddau beth: dyma oedd prifddinas Gorllewin yr Almaen tan yr ailuno ac yma y ganwyd Beethoven, un o gyfansoddwyr enwocaf y wlad. Ond, fel Cologne, mae Bonn yn dyddio'n ôl i Oes y Rhufeiniaid ac mae digon i'w weld a'i wneud yma. Gallwch fynd ar daith o amgylch y ddinas, ymweld ag amgueddfa neu fwynhau holl liw a bwrlwm y marchnadoedd Nadolig


Marksburg

Dyma un o gestyll gorau'r Almaen, enghraifft brin o hanes sydd heb newid fawr ddim dros y blynyddoedd. Saif uwchlaw tref Braubach, sef enw gwreiddiol y castell, ar lan ddwyreiniol y Rhein gyda golygfeydd ysblennydd o'r afon. Ar wahân i'r ychwanegiadau a'r gwaith cynnal a chadw dros y canrifoedd, mae Marksburg fwy neu lai fel ag yr oedd pan roedd yn cael ei ddefnyddio'n wreiddiol fel cadarnle i rai o bwysigion hanes yr Almaen. A dweud y gwir, yr unig ddifrod difrifol iddo ddioddef mewn rhyfel oedd pan ymosodwyd arno o lan orllewinol y Rhein tuag at ddiwedd yr Ail Ryfel Byd. Ffoniwch am wybodaeth am deithiau tywys.


Boppard

Mae Boppard yn dref hyfryd ag iddi hanes hir a difyr. Mae cyfoeth hanesyddol dyffryn Rhein wedi helpu i wneud y dref yn lle deniadol iawn i ymwelwyr.

Os ydych chi'n ymweld adeg y Nadolig, mae Rüdesheim a Boppard yn cynnal marchnadoedd Nadolig bach. Er eu bod yn llawer llai na marchadoedd Cologne, chewch chi mo'ch siomi.


Rüdesheim

Saif tref ddeniadol Rudesheim ar afon Rhein ac mae'n cynnwys enghreifftiau gwych o bensaernïaeth yr Oesoedd Canol. Ewch i fyny yn y lifft gadair i weld heneb Niederwald a mwynhau rhai o'r golygfeydd gorau o ddyffryn Rhein. Bydd Cwpwrdd Cerddoriaeth Mecanyddol Siegfried, sydd ag enghreifftiau bendigedig o focsys cerddoriaeth ac offerynnau mecanyddol hanesyddol eraill, yn apelio i fyfyrwyr cerddoriaeth neu ymwelwyr iau.


Ymweliadau eraill yn Aachen

Gallwch hefyd ddewis ymweld â Neuadd y Dref neu'r Rathaus, Amgueddfa Couven sy'n edrych ar fywyd yn y ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, amgueddfa'r Wasg Ryngwladol a'r amgueddfa gyfrifiaduron.


The Ludwig Forum for International Art

Mae'r oriel hon yn amgueddfa gwbl unigryw. Mae gwahanol fathau o gelfyddyd gyfoes yn cael eu cyflwyno yma mewn modd rhyngweithiol. Mae gwahanol fathau o gelfyddyd weledol yn cael eu hategu gan arddangosiadau o gelfyddydau perfformio, gan gynnwys cerddoriaeth, dawns, barddoniaeth a ffilm, i roi gwledd o gelfyddyd gyfoes.


Amgueddfa Suermondt-Ludwig

Gallech ddechrau'ch taith o'r amgueddfa yn y byd cyfoes a chamu'n ôl i'r Oesoedd Canol. Y prif atyniadau yw'r casgliad rhagorol o bortreadau a cherfluniau o ddiwedd yr Oesoedd Canol a phaentiadau o'r ail ganrif ar bymtheg


Eglwys Gadeiriol Aachen

Mae'r Eglwys Gadeiriol hon yn safle treftadaeth y byd arbennig iawn. Mae craidd yr adeilad yn dyddio'n ôl 1200 o flynyddoedd ac mae'n un o eglwysi cadeiriol mwyaf diddorol Gorllewin Ewrop. Gallwch ymweld â bedd Siarlymaen, safle coroni Brenhinoedd yr Almaen a safleoedd pwysig i bererinion yn ogystal â Thrysor yr Eglwys Gadeiriol, sy'n hynod werthfawr - mae Eglwys Gadeiriol Aachen yn esiampl heb ei hail o hanes diwylliannol.


Taith gerdded

Dyma'r ffordd orau o fwynhau atyniadau Aachen. Cewch eich tywys ar hyd lonydd cul a sgwariau hanesyddol yr Hen Dref a chael eich ysbrydoli gan bron i 2000 o flynyddoedd o hanes.


Teithiau ar gwch

Dyma ffordd wych o werthfawrogi dyffryn godidog y Rhein. Gallwch hwylio'n hamddenol i drefi prydferth BoppardBonn neu Rüdesheim, treulio'r diwrnod yn crwydro'r strydoedd canoloesol ac yna dychwelyd ar fws. Os am deithio ar gwch ar afon Rhein, noder fod y cwmnïau cychod yn cyfyngu ar eu gwasanaeth yn ystod y gaeaf ac felly efallai na fydd hi'n bosib teithio ar gwch i'r trefi hyn o Cologne.

Ceir teithiau arbennig adeg y Nadolig, gyda chyfle i fwynhau diod boeth a darn o deisen Stollen ar y cwch. Rhowch wybod os hoffech chi'r opsiwn hwn.


Amgueddfa Ludwig

Amgueddfa Ludwig yw cartref y casgliad mwyaf o Gelfyddyd Bop y tu allan i America. Gallwch weld gwaith Warhol, Lichtenstein a Segal yn ogystal â chasgliad mawr o waith Picasso a gwaith arlunwyr mynegiadol.


Amgueddfa Chwaraeon

Mae'r amgueddfa'n olrhain hanes chwaraeon cystadleuol o'r Gemau Olympaidd cyntaf yng Ngwlad Groeg i rai o chwaraeon mwyaf llwyddiannus yr Almaen: Fformiwla 1, Gemau Olympaidd y Gaeaf a phêl-droed. Gallwch weld rhoddion gan chwaraewyr enwog ac mae arddangosfeydd arbennig ar gyfer Gemau Olympaidd Berlin 1936 a digwyddiadau erchyll Gemau Olympaidd 1972 ym Munich. Rydyn ni'n argymell eich bod chi'n trefnu taith dywys, yn Saesneg neu Almaeneg, i fanteisio'n llawn ar yr amgueddfa hon.


Stollwerck Schokoladenmuseum

Dyma amgueddfa i dynnu dŵr o'ch dannedd! Siocled, siocled a mwy o siocled - y lle i fynd os oes gennych chi ddant melys! Mae'r amgueddfa'n olrhain hanes gwneud siocled a'r broses ei hun ac yn dangos deunyddiau marchnata a chelfwaith sydd wedi cael eu defnyddio gydol hanes y diwydiant. Uchafbwynt yr ymweliad yw gweld y siocled yn cael ei wneud ac yna cael cyfle i'w flasu mewn ffynnon siocled euraidd. Wrth gwrs, allwch chi ddim gadael heb bicio i'r siop i brynu ychydig o ddanteithion!


Eglwys Gadeiriol Cologne

Yr eglwys gadeiriol yw symbol unigryw Cologne. Ym 1998, cafodd ei chynnwys ar Restr Treftadaeth y Byd UNESCO. Dyma atyniad mwyaf poblogaidd yr Almaen, ac mae'n denu dros chwe miliwn a hanner o ymwelwyr y flwyddyn. Y tu mewn, cewch weld y cysegr euraidd sy'n cynnwys creiriau'r Tri Gŵr Doeth a llawer o wrthrychau celf gwerthfawr eraill.


Teithiau Cerdded

Mae Cologne wedi bod yn ganolfan fasnach, crefydd a chelfyddyd ers yr Oesoedd Canol ac erbyn heddiw hi yw'r bedwaredd ddinas fwyaf yn yr Almaen. Gallwch grwydro'r ddinas hynafol hon ar droed a dysgu am ei hanes yn ôl i Oes y Rhufeiniaid yn Saesneg neu Almaeneg gan eich tywysydd. Nid yw taith gyffredinol o'r ddinas yn cynnwys taith o amgylch yr eglwys gadeiriol, ond gellir ychwanegu'r tâl mynediad at y gost. Gallwch hefyd drefnu taith dywys o'r eglwys gadeiriol ar wahân. Mae'r daith yn para tua awr.