Teithiau Cerdded

Mae Cologne wedi bod yn ganolfan fasnach, crefydd a chelfyddyd ers yr Oesoedd Canol ac erbyn heddiw hi yw’r bedwaredd ddinas fwyaf yn yr Almaen. Gallwch grwydro’r ddinas hynafol hon ar droed a dysgu am ei hanes yn ôl i Oes y Rhufeiniaid yn Saesneg neu Almaeneg gan eich tywysydd. Nid yw taith gyffredinol o’r ddinas yn cynnwys taith o amgylch yr eglwys gadeiriol, ond gellir ychwanegu’r tâl mynediad at y gost. Gallwch hefyd drefnu taith dywys o’r eglwys gadeiriol ar wahân. Mae’r daith yn para tua awr.