Hwyl a Fflag: Teithiau addysgolsy'n ysbrydoli

Croeso i Hwyl a Fflag, cwmni teithio newydd sy’n arbenigo mewn teithiau addysgol ym Mhrydain ac yn Ewrop.

Ry’n ni wedi cynllunio’r wefan fel eich bod chi’n gallu chwilio am daith yn ôl pwnc perthnasol neu yn ôl lleoliad.

Os cliciwch chi ar y lleoliad o’ch dewis, cewch weld rhestr o bethau i’w gwneud yno. Mae pob un o’r rhain wedi eu labelu’n glir i ddangos pa bynciau sy’n berthnasol iddynt. Dylai hyn eich helpu chi i ddod o hyd i’r hyn rydych chi’n chwilio amdano yn hawdd.

Os cliciwch chi ar y pwnc sy’n berthnasol i chi, cewch weld rhestr o lefydd sydd â gweithgareddau addas i’ch taith.

Neu efallai bod gennych chi eich syniadau eich hun. Os felly, cysylltwch â ni er mwyn trefnu taith wedi ei theilwra’n arbennig i’ch gofynion chi.

Chwiliwch am y ddraig goch wrth i chi edrych ar ein gwefan. Mae’r ddraig yn dangos bod gweithgaredd â thema Gymreig iddi er mwyn i chi allu dod â naws Gymreig i bob taith, ble bynnag yr ewch chi.