Hwyl a Fflag: Teithiau addysgolsy'n ysbrydoli

Diogelwch

Mae’r Adran Addysg a Sgiliau yn cydnabod pwysigrwydd teithiau ysgol fel gweithgaredd ychwanegol i’r cwricwlwm sy’n cyfrannu at addysg plant a phobl ifanc.

Wrth gwrs, ry’n ni’n sylweddoli bod diogelwch y disgyblion yn hollbwysig i bob athro sy’n trefnu taith ysgol o unrhyw fath.

Dyna pam ry’n ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i wneud yn siwr bod pob rhan o’r daith yn cydymffurfio â chanllawiau a rheolau iechyd a diogelwch.

Sicrwydd Ariannol

Mae’r Rheoliadau Teithio Pecyn, Gwyliau Pecyn a Theithiau Pecyn 2018 yn datgan bod rhaid i’r arian ry’ch chi’n ei roi ni am y daith gael ei ddiogelu nes i chi ddychwelyd. Ni fydd yr arian hwn yn cael ei drosglwyddi i Hwyl a Fflag Cyf. nes i chi gadarnhau bod y daith wedi ei chwblhau’n foddhaol (neu 14 niwrnod ar ôl eich dyddiad dychwelyd os na fyddwn wedi clywed i’r gwrthwyneb). Mae hyn yn diogelu cost eich taith pe bai’r cwmni’n mynd i ddwylo’r derbynwyr.

Iechyd a Diogelwch

Ry’n ni wedi datblygu polisi rheoli diogelwch cynhwysfawr er mwyn sicrhau bod Hwyl a Fflag yn gweithredu systemau ac yn dilyn gweithdrefnau llym i sicrhau bod pob elfen o ddiogelwch ar y daith wedi ei hasesu ymlaen llaw.

Mae gennym ddiddordeb byw yn elfen iechyd a diogelwch pob un o’n teithiau. Yn ogystal â chynnal archwiliadau manwl o’r gwestai, canolfannau llety a’r cwmnïau bysus ry’n ni’n eu defnyddio’n rheolaidd, ry’n ni’n gofyn i’n cwsmeriaid roi gwybod i ni unrhyw ddamweiniau neu ddigwyddiadau sy’n codi yn ystod y teithiau ry’n ni wedi eu trefnu er mwyn i ni fedru cadw cofnod ohonynt, boed fach neu fawr. Gofynnwn i chi gysylltu â ni os oes rhywbeth o’r natur hon yn digwydd yn ystod eich taith chi.

Ry’n ni hefyd yn hybu ymwybyddiaeth o iechyd a diogelwch yn ein gweithle ni er mwyn i bob aelod o staff fod ag agwedd bositif tuag at bwysigrwydd safonau diogelwch uchel

Pan fyddwch chi’n gwneud asesiadau risg ar gyfer eich taith, cysylltwch â ni gan fod gennym ni ein hasesiadau risg ein hunain ar gyfer nifer o’r gwestai a’r canolfannau ry’n ni’n eu defnyddio, yn ogystal â nifer o’r ymweliadau y gallwch chi eu trefnu trwyddom ni. Gallwn hefyd gynnig cymorth a chyngor wrth i chi feddwl am agweddau diogelwch eich taith.

Yswiriant Teithio ar gyfer eich taith

Rydym yn credu bod diogelwch a mwynhau yr un mor bwysig â’i gilydd pan yn teithio gyda Hwyl a Fflag. Felly, un o’n amodau a thelerau archebu yw bod gennych chi yswiriant teithio priodol cyn i chi deithio; dylai gynnwys costau meddygol mewn argyfwng, damweiniau personol a dychwelyd adref. Rydym hefyd yn argymell yn gryf eich bod yn cynnwys yswiriant ar gyfer bagiau, atebolrwydd personol a chanslo.

Mae Hwyl a Fflag yn cydweithio â Gwasanaethau Yswiriant Endsleigh Cyfyngedig i gynnig polisi cystadleuol sydd wedi’i deilwra’n arbennig i fodloni gofynion yswiriant teithwyr sy’n mynd ar daith wedi’i threfnu gan Hwyl a Fflag. Mae’r polisi’n cynnwys gofal meddygol brys ynghyd â chostau meddygol, mae’n gwarchod rhag costau canslo taith neu ei thorri’n fyr ac mae’n gwarchod teithwyr os ydynt yn colli neu’n difrodi eu bagiau neu os caiff unrhyw beth ei ddwyn, yn cynnwys arian y grŵp.

Prif nodweddion a buddion:

  • Llinell gymorth 24 awr ar gyfer argyfyngau meddygol
  • Costau meddygol brys mewn achos o salwch neu anaf
  • Gwarchod yn erbyn costau canslo neu dorri taith yn fyr
  • Gwarchod rhag colled neu ddifrod i fagiau ac arian personol
  • Ystod eang o chwaraeon a gweithgareddau yn cynnwys chwaraeon eira e.e. sgio, eirafyrddio ac ati

Dalier Sylw Da o beth fyddai prynu’ch yswiriant teithio wrth i chi archebu’ch taith gan y bydd yr yswiriant ar gyfer canslo yn dechrau ar ddyddiad cychwyn y polisi. Byddwch felly wedi’ch yswirio pe byddai rhaid i chi ganslo’ch taith am reswm sydd wedi’i yswirio fel salwch neu ddamwain ddifrifol sy’n eich atal rhag teithio.