Hwyl a Fflag: Teithiau addysgolsy'n ysbrydoli

Cwmni teithio yw Hwyl a Fflag sy’n trefnu teithiau addysgol diddorol a fydd yn ehangu gorwelion ac yn ysbrydoli eich myfyrwyr.

Mae gan ein staff brofiad helaeth o weithio ym maes teithiau addysgol, a’n bwriad ni yw defnyddio’r profiad hwn, yn ogystal â’n brwdfrydedd, i gyflwyno syniadau a phrofiadau newydd i ddisgyblion o bob oed, gan greu teithiau cyffrous a gwahanol. Credwn yn gryf mai trwy weld a phrofi rhywbeth eich hun y mae rhywun yn dysgu. Y ffordd orau o sicrhau hyn yw drwy fynd ar daith addysgol a dysgu y tu allan i’r dosbarth.

Ry’n ni’n gwybod bod gan athrawon ddigon ar eu plât yn gofalu am grŵp o ddisgyblion ar daith, heb orfod poeni’n ormodol am fanylion ymarferol y daith. Gall Hwyl a Fflag ofalu am bob manylyn ymarferol, gan adael arweinydd y grŵp i ofalu am yr ochr addysgol, er mwyn i daith eich grŵp fod yn un llwyddiannus.

Mae Hwyl a Fflag yn gwmni Cymreig, sy’n cynnig gwasanaeth trefnu taith drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae ein teithiau addysgol yn cyd-fynd yn berffaith â gofynion y cwricwlwm mewn ystod eang o bynciau. Os hoffech chi drefnu taith i wlad dramor gyda rhywfaint o naws Gymreig iddi, neu unrhyw daith addysgol yng Nghymru, Prydain neu dramor, codwch y ffôn nawr i drafod y posibiliadau gyda ni. Ein bwriad yw cydweithio gydag athrawon sy’n trefnu’r teithiau er mwyn dylunio cynllun teithio wedi ei deilwra i’ch gofynion chi.

Ble bynnag yr hoffech chi fynd, gallwn ni greu taith i chi, hyd yn oed os nad yw’r lleoliad yn ymddangos ar ein gwefan. Felly cysylltwch â ni nawr i drafod unrhyw syniadau sydd gennych chi.

Mae Hwyl a Fflag yn gwmni cofrestredig yng Nghymru a Lloegr. Swyddfa Gofrestredig:82 Kimberley Road, Penylan, Cardiff, CF23 5DN, Rhif Cwmni 5897372.