Hwyl a Fflag: Teithiau addysgolsy'n ysbrydoli

Trefnu Taith gyda ni

Ry’n ni’n gwybod eich bod chi eisiau i’ch disgyblion gael profiadau addysgol gwerthfawr a fydd yn eu hysbrydoli ac yn eu llenwi gyda brwdfrydedd. Ry’n ni hefyd yn sylweddoli y byddai’n well gennych chi beidio â gorfod gorfod gofalu am bob manylyn ymarferol sy’n rhan annatod o drefnu taith ysgol ar ben y gwaith sydd gennych i’w wneud yn barod! Ry’n ni yma i’ch helpu.

Ein nod ni yw rhoi gwasanaeth o’r safon uchaf i chi er mwyn i chi allu rhoi profiad bythgofiadwy i’ch disgyblion.

Felly sut mae mynd ati?

Mae gan rai syniad da o lle yr hoffen nhw fynd a beth yr hoffen nhw ei wneud yno. Efallai eich bod chi wedi trefnu’r un daith am 20 mlynedd, neu efallai mai dyma’ch profiad cyntaf o deithio gyda grŵp ysgol. Dyw hynny’n ddim problem i ni.

Ar y wefan, cewch fanylion am y prif deithiau ry’n ni’n eu trefnu. Dyma’n hawgrymiadau ni gan ein bod ni’n gwybod eu bod nhw’n gweithio. Os nad oes gennych chi syniad lle yr hoffech chi fynd, rhowch gipolwg ar yr hyn sydd ar gael. Yn y bôn, mae unrhyw beth yn bosib, o fewn rheswm wrth gwrs, ac fe fyddwn ni’n fwy na pharod i wrando ar eich syniadau a’ch helpu i drefnu taith fythgofiadwy!

Mae’n siwr y byddwch chi eisiau gwybod faint mae taith yn debygol o gostio. Ry’n ni’n sylweddoli bod pris yn hollbwysig ac ry’n ni’n anelu i fod mor gystadleuol â phosib. Fe wnawn ni’n gorau glas i roi’r pris gorau i chi heb gyfaddawdu ar safon.

Gallwch chi naill ai ddewis lleoliad ar y wefan, neu edrych ar y lleoliadau sy’n cyd-fynd â’ch pwnc chi. Neu codwch y ffôn, anfonwch ebost neu llenwch einffurflen ymholiad ar-lein i drafod eich syniadau.

Cwestiynau Cyffredin

Ry’n ni hefyd wedi creu rhestr o gwestiynau cyffredin a fydd o help i chi gyda rhai o’r elfennau mwy manwl sy’n rhan o drefnu taith.

Edrychwn ymlaen at glywed gennych!