Stollwerck Schokoladenmuseum

Dyma amgueddfa i dynnu dŵr o’ch dannedd! Siocled, siocled a mwy o siocled – y lle i fynd os oes gennych chi ddant melys! Mae’r amgueddfa’n olrhain hanes gwneud siocled a’r broses ei hun ac yn dangos deunyddiau marchnata a chelfwaith sydd wedi cael eu defnyddio gydol hanes y diwydiant. Uchafbwynt yr ymweliad yw gweld y siocled yn cael ei wneud ac yna cael cyfle i’w flasu mewn ffynnon siocled euraidd. Wrth gwrs, allwch chi ddim gadael heb bicio i’r siop i brynu ychydig o ddanteithion!