Ehrenbreitstein

Saif Caer Ehrenbreitstein, yr ail gaer fwyaf yn Ewrop ar ôl Gibraltar, ymhell uwchlaw’r Rhein. Ceir golygfa ysblennydd ar draws yr afon i lawr i “Deutsches Eck”. Gallwch gael taith dywys o amgylch y gaer yn Saesneg neu Almaeneg i ddysgu mwy am hanes yr ardal ers dechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg.