Teithiau ar gwch
1st March 2019
|By aclouise
Dyma ffordd wych o werthfawrogi dyffryn godidog y Rhein. Gallwch hwylio’n hamddenol i drefi prydferth Boppard, Bonn neu Rüdesheim, treulio’r diwrnod yn crwydro’r strydoedd canoloesol ac yna dychwelyd ar fws. Os am deithio ar gwch ar afon Rhein, noder fod y cwmnïau cychod yn cyfyngu ar eu gwasanaeth yn ystod y gaeaf ac felly efallai na fydd hi’n bosib teithio ar gwch i’r trefi hyn o Cologne.
Ceir teithiau arbennig adeg y Nadolig, gyda chyfle i fwynhau diod boeth a darn o deisen Stollen ar y cwch. Rhowch wybod os hoffech chi’r opsiwn hwn.