Deutsches Museum Bonn

Cyfle i ddysgu am hanes a datblygiad gwyddoniaeth a thechnoleg yn yr Almaen a gweddill y byd ers 1945. Dangosir y datblygiadau yng nghyd-destun datblygiad gwleidyddol ac economaidd yr Almaen ers y rhyfel. Nod yr arddangosfa yw dangos pwysigrwydd gwyddoniaeth a thechnoleg i’r Almaenwyr wrth iddyn nhw gystadlu â gweddill y byd. Gallwch gael taith dywys yn Saesneg neu Almaeneg.