Marksburg

Dyma un o gestyll gorau’r Almaen, enghraifft brin o hanes sydd heb newid fawr ddim dros y blynyddoedd. Saif uwchlaw tref Braubach, sef enw gwreiddiol y castell, ar lan ddwyreiniol y Rhein gyda golygfeydd ysblennydd o’r afon. Ar wahân i’r ychwanegiadau a’r gwaith cynnal a chadw dros y canrifoedd, mae Marksburg fwy neu lai fel ag yr oedd pan roedd yn cael ei ddefnyddio’n wreiddiol fel cadarnle i rai o bwysigion hanes yr Almaen. A dweud y gwir, yr unig ddifrod difrifol iddo ddioddef mewn rhyfel oedd pan ymosodwyd arno o lan orllewinol y Rhein tuag at ddiwedd yr Ail Ryfel Byd. Ffoniwch am wybodaeth am deithiau tywys.