Checkpoint Charlie

Sefydlwyd “Haus am Checkpoint Charlie” i olrhain hanes protestiadau heddychlon yn erbyn y gormes fu ar hawliau dynol. Saif ger safle’r “porth” rhwng Dwyrain y ddinas a’r Gorllewin. Dros y blynyddoedd, maen nhw wedi cofnodi ymdrechion di-ri i ddianc o’r Dwyrain ac wedi casglu pethau sy’n gysylltiedig â’r ymdrechion hyn. Yn eu plith mae lluniau o ymgais un teulu i ddianc mewn balwn awyr, copi maint llawn o seinydd system sain y cuddiodd un ferch ynddo i groesi’r ffin a char tu hwnt o fach a lwyddodd i gludo llaweroedd i’r Gorllewin mewn sawl taith. Mae hyd yn oed dymi maint person wedi’i guddio yn y car – eich sialens chi yw dod o hyd iddo. Gallwch hefyd werthfawrogi gwaith celf a ysbrydolwyd gan Wal Berlin a lluniau arlunwyr o’r wal ei hun. Mae’r amgueddfa hefyd yn rhoi gwybodaeth am ymgyrch heddychlon fyd-eang Ghandi dros hawliau dynol. Gallwch gael taith dywys yn Saesneg neu Almaeneg – dylech neilltuo dwy awr ar gyfer yr ymweliad.