Haus der Wansee Konferenz
28th February 2019
|By aclouise
Ar 20 Ionawr 1942, cyfarfu pymtheg o uwch weision sifil a swyddogion yr SS yn y tŷ hwn i drafod y cynllun i ddelio unwaith ac am byth ag Iddewon Ewrop; eu halltudio i’r Dwyrain a’u llofruddio. Dyma oedd yr Ateb Terfynol neu’r “Final Solution”. Hanner can mlynedd yn union wedi’r gynhadledd frawychus honno, agorwyd cofeb a chanolfan addysg yn y fila. Heddiw, mae’n gartref i arddangosfeydd o gyfundrefn y Sosialwyr Cenedlaethol a hanes yr Iddewon. Gallwch gael taith dywys yn Saesneg neu Almaeneg, sy’n para 2 awr.