Teithiau Cerdded

Mae cymaint o bethau i’w gweld a’u gwneud yn Berlin, mae’n anodd gwybod yn iawn ble i ddechrau. Rydyn ni’n argymell eich bod chi’n mynd ar daith o amgylch y ddinas, naill ai ar droed neu ar fws, er mwyn i chi gynefino â’r lle. Mae pob math o deithiau ar gael, yn dibynnu ar beth sy’n mynd â’ch bryd – celfyddyd, pensaernïaeth, hanes, cerddoriaeth neu wleidyddiaeth, neu gallwch ganolbwyntio ar naill ai gorllewin, canol neu ddwyrain y ddinas. Mae’r teithiau’n para tua 3 awr, yn dibynnu ar eich dewis. Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth.