Potsdamer Platz
28th February 2019
|By aclouise
Dyma ochr fodern Berlin. Yma gallwch weld adeiladau trawiadol Daimler-Chrysler a Beisheim, siopa yn yr Arcedau a chamu i’r dyfodol yn y Sony Centre. Gallech weld ffilm yn y sinema CineStar Original neu’r sinema IMAX®, ymweld â’r Sony Style Centre neu gymryd saib i fwyta ac yfed yn un o’r bistros di-ri. Os mai ffilmiau sy’n mynd â’ch bryd, peidiwch â cholli’r Filmmuseum sy’n canolbwyntio ar y byd ffilm a hanes y diwydiant ffilm yn Hollywood a Berlin.