Topografie des terrors

Arddangosfa awyr agored dros dro oedd hon yn wreiddiol ond mae bellach yn un barhaol. Fe’i lleolir yn yr ardal a oedd yn gartref i’r sefydliadau a fu’n gyfrifol am bolisïau gormesol ac anghyfreithlon y Sosialwyr Cenedlaethol. Bwriad y Topography of Terror Foundation yw darparu gwybodaeth am hanes Sosialaeth Genedlaethol a’i throseddau yn ogystal â dod â phobl wyneb yn wyneb â’r hanes hwn a’i effaith ers 1945. Mae taith dywys yn Saesneg neu Almaeneg yn para tua awr a hanner.