Cofeb yr Holocost
Comisiynodd llywodraeth yr Almaen y Gofeb i’r Iddewon a Lofruddiwyd yn Ewrop i fod yn brif safle cofio’r Holocost yn yr Almaen er mwyn coffáu’r chwe miliwn a fu farw. Mae’r gofeb, a saif ger Porth Brandenburg, yn cynnwys Maes Stelae – blociau concrid llwyd enfawr a dramatig sy’n amrywio o ran maint. Mae Maes Stelae ar agor i’r cyhoedd ddydd a nos. Mae’r patrwm grid yn cynnwys 2,711 o stelae concrid, ac mae modd i’r ymwelydd gerdded trwyddynt o bob cyfeiriad, gan ddewis ble i ddechrau a gorffen y daith. Mae’r Ganolfan Wybodaeth danddaearol yng nghornel de-ddwyreiniol y gofeb drawiadol hon yn darparu gwybodaeth am y dioddefwyr, y mannau lle cawsant eu llofruddio a’r safleoedd coffa sy’n bodoli heddiw. Mae taith trwy’r Ganolfan Wybodaeth yn cychwyn trwy ddysgu am bolisi lladd y Natsïaid rhwng 1933 a 1945. Mae cyfres o wybodaeth a lluniau yn dangos sut y datblygodd yr Holocost a’r broses o ladd yr Iddewon yn Ewrop, yn ogystal â’r broses o erlid a llofruddio grwpiau eraill o ddioddefwyr.
Gellir trefnu taith Saesneg neu Almaeneg er mwyn cael cyflwyniad i’r safle coffa a’r ganolfan ymwelwyr.