Hanes Berlin/The Story of Berlin
28th February 2019
|By aclouise
Mae’r arddangosfa amlgyfrwng hon yn olrhain hanes y ddinas o’r drydedd ganrif ar ddeg i’r presennol. Mae’r arddangosfeydd a’r effeithiau arbennig yn ffordd effeithiol iawn o gyfleu rhai o’r digwyddiadau pwysicaf yn hanes diweddar yr Almaen. Mae’r arddangosfa ar adeiladu Wal Berlin, er enghraifft, yn cynnwys ffilmiau gwreiddiol o’r diwrnod y codwyd y Wal. Mae taith dywys yn Saesneg neu Almaeneg hefyd yn cynnwys taith o’r byncer niwclear o dan y Kudamm, a adeiladwyd i amddiffyn pobl Berlin rhag ymosodiad niwclear yn y Rhyfel Oer. Dylech neilltuo awr a hanner ar gyfer eich ymweliad.