Gedenkstätte Sachsenhausen
Rhwng 1936 a 1945, alltudiwyd dros 200,000 o garcharorion i Sachsenhausen o bob cwr o Ewrop. Cafodd carcharorion gwleidyddol eu caethiwo yno hefyd pan oedd yr Undeb Sofietaidd mewn grym. Mae’r gwersyll bellach yn gofeb ac yn ganolfan addysg ac mae’n cynnal rhaglen o arddangosfeydd sy’n newid yn gyson. Gall ymwelwyr weld yr ystafelloedd lle’r oedd y carcharorion yn cysgu a chyfleusterau trychinebus o wael y gwersyll. Mae rhai o adeiladau’r siambrau nwy yn dal i sefyll ac mae’r tyrau gwylio a’r ffensys weiren bigog yn atgof arswydus o ddioddefaint y carcharorion. Byddem ni’n argymell yr ymweliad hwn ar gyfer disgyblion dros 14 oed oherwydd ei fod yn brofiad ysgytiol – ond yn amlwg, yr athro sydd i ddewis. Gallwch gael taith dywys yn Saesneg neu Almaeneg sy’n para tua 2 awr.