Deutsches Historisches Museum

Mae’r amgueddfa hon yn cynnwys cyfres o arddangosfeydd parhaol sy’n olrhain hanes yr Almaen o’r flwyddyn 100 OC i’r ugeinfed ganrif a’r ddau ryfel byd. Nod yr arddangosfeydd yw helpu ymwelwyr i ddeall hanes y wlad ac maen nhw’n cynnwys gwisgoedd, gwrthrychau bob dydd ar hyd yr oesoedd, gwrthrychau milwrol a gweithiau celf, ffotograffiaeth, technoleg, peirianneg a ffilm. Mae’n amgueddfa fawr a hwyrach na fyddwch am ymweld â phob arddangosfa. Dylech neilltuo dwy awr.