Amgueddfa’r Iddewon
28th February 2019
|By aclouise
Mae’r amgueddfa hon yn ddifyr tu hwnt ac yn dathlu 2000 mlynedd o hanes, diwylliant a hunaniaeth yr Iddewon. Mae cynllun yr adeilad hyd yn oed yn atyniad ynddo’i hun. Cynlluniwyd yr adeilad gan y pensaer Americanaidd, Daniel Liebeskind, ar ffurf Seren Dafydd wedi’i thorri, sy’n symbol o ddistryw’r Iddewon. Mae digonedd o weithgareddau rhyngweithiol yma sy’n ffordd wych o ddysgu a gall disgyblion ddysgu ysgrifennu eu henwau yn Hebraeg, dysgu am y gwahanol elfennau o ddiet Kosher a gweld â’u llygaid eu hunain sut oedd bywyd yn y getoau Iddewig ar ddechrau’r Ail Ryfel Byd. Gallwch gael taith dywys yn Saesneg neu Almaeneg ar thema o’ch dewis. Dylech neilltuo 2 awr ar gyfer yr ymweliad