Castell Windsor
Mae ymweliad â'r castell Brenhinol yn cynnwys yr Ystafelloedd Brenhinol ysblennydd, sydd wedi'u haddurno â thrysorau o'r Casgliad Brenhinol; Capel Sant Siôr, yr Oriel Ddarluniau, Tŷ Dol y Frenhines Mary a, rhwng mis Hydref a mis Mawrth, ystafelloedd preifat moethus Siôr IV. Mae Canolfan Addysg y castell yn cynnig rhaglen ddifyr o sgyrsiau, gweithgareddau a gweithdai o lefel sylfaen i Gyfnod Allweddol 5 i fodloni gofynion eich grŵp.
Mae ymweliadau cysylltiedig yn cynnwys: Y Stablau Brenhinol, Oriel y Frenhines a Phalas Hampton Court, cartef Harri VIII.
National Army Museum
Mae'r National Army Museum yn defnyddio dulliau rhyngweithiol i ddangos sut mae Byddin Prydain wedi dylanwadu ar ddiwylliant, traddodiadau, llywodraeth a chyfreithiau Prydain fodern. Mae'r arddangosfeydd yn olrhain hanes Prydain o "The Making Of Britain, 1066-1783" hyd at "Fighting For Peace, 1946-2006". Mae rhaglen addysg yr Amgueddfa yn cynnig sesiynau ar gyfer Cyfnodau Allweddol 1 - 4 a diwrnodau astudio ar gyfer y Chweched. Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth am y rhain.
Imperial War Museum Llundain
Mae gan yr amgueddfa arddangosfeydd hanesyddol eang ar y ddau ryfel byd gan gynnwys arddangosfa barhaol fwyaf Ewrop ar yr Holocost a gwrthdaro wedi'r rhyfel. Ceir rhaglen ddiddorol o sesiynau addysgol sy'n canolbwyntio ar themâu penodol yr arddangosfeydd. Mae'r rhain yn boblogaidd iawn felly cysylltwch â ni am restr ohonynt i drefnu sesiynau mewn da bryd cyn eich taith.
Ymweliadau cysylltiedig: Amgueddfa Churchill ac Ystafelloedd Rhyfel y Cabinet, Amgueddfa'r Awyrlu Brenhinol
Churchill Museum a'r Cabinet War Rooms
Dyma'r ystafelloedd lle bu Churchill yn rhoi cyfarwyddiadau yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Yma gallwch ddysgu am fywyd un o arweinwyr mwyaf dylanwadol yr ugeinfed ganrif a gweld ble y gwnaed penderfyniadau hollbwysig a fu'n gymaint o ddylanwad ar hanes modern. Mae'r amgueddfa'n cyfuno arddangosfeydd aml-gyfrwng gydag arteffactau gwreiddiol i adrodd hanes bywyd Churchill.
Sioeau'r West-End
Mae ymweld â Llundain yn gyfle heb ei ail i weld sioe yn y West-End. Mae perfformiadau a chôst tocynnau'n amrywio, felly cysylltwch â ni os ydych yn chwilio am berfformiadau ar ddyddiadau arbennig. Cliciwch yma i weld rhestr o'r sioeau mwyaf poblogaidd sydd yn rhedeg ar hyn o bryd y gallwn archebu tocynnau grŵp ar eu cyfer. Nid yw'r rhestr yma yn un gynhwysfawr gan fod cymaint o sioeau i'w gweld yn Llundain. Fel arall, os oes un sioe wedi mynd â'ch bryd, gallwn archebu tocynnau i'ch grŵp a chynllunio'ch taith o amgylch dyddiad y perfformiad.
Roald Dahl Museum
Dyma amgueddfa llawn hwyl lle gallwch ddysgu am yr awdur a aned yng Nghaerdydd, mwynhau'r ganolfan straeon, gwisgo fel y cymeriadau a chreu ffilmiau animeiddio. Mae'r amgueddfa'n addas ar gyfer plant 6-12 oed ac mae ymweliadau fel arfer yn cymryd rhwng awr ac awr a hanner.
Globe Theatre
Mae ymweld â'r ail-gread rhyfeddol hwn o'r theatr wreiddiol lle bu Shakespeare yn gweithio yn ffordd ddelfrydol o ddod â gwaith Shakespeare yn fyw i'ch grŵp. Nod rhaglen addysg y Globe yw rhoi gwybodaeth gynhwysfawr am Shakespeare gyda theithiau tywys, gweithdai ar ddrama o'ch dewis, arddangosfa a pherfformiadau matinée gyda chyfle i holi'r actorion ar ôl y sioe.
London Wetland Centre
Mae'r ganolfan hon wedi ennill gwobrau di-ri a dyma'r prosiect cyntaf o'i fath yn y byd, gyda thros 40 hectar o wlyptiroedd wedi'u creu yng nghanol y brifddinas. Mae'n gyfle i gannoedd ar filoedd o ymwelwyr weld bywyd gwyllt prin a phrydferth y gwlyptiroedd o fewn tafliad carreg i ganol Llundain. Cysylltwch â ni am restr o sesiynau dysgu arbrofol y ganolfan.
Natural History Museum
Mae'r Natural History Museum yn llawn posibiliadau diddiwedd i archwilio trysorau'r byd. Gallwch ddarganfod mwy am ddinosoriaid, bywyd gwyllt neu ddaeargrynfeydd wrth grwydro'r amgueddfa ar eich pen eich hunain neu gallwch gymryd rhan yn un o'r gweithgareddau neu weithdai di-ri a drefnir gan yr amgueddfa. Cysylltwch â ni am restr o ddigwyddiadau.
Science Museum
Mae ymweliad â'r Amgueddfa Wyddoniaeth yn ffordd wych o ennyn brwdfrydedd disgyblion ac mae'n darparu cyfleoedd dysgu mewn nifer o feysydd y cwricwlwm, nid Gwyddoniaeth yn unig. Mae'r amgueddfa'n darparu nifer o sioeau ac arddangosfeydd amrywiol gan gynnwys yr IMAX Cinema, yn ogystal â deunydd cymorth ar gyfer yr ystafell ddosbarth i baratoi ar gyfer eich ymweliad. Cysylltwch â ni am wybodaeth bellach.
Victoria and Albert Museum
Ceir casgliad mwya'r byd o waith celf a dylunio yn y V&A, sy'n rhychwantu dros 3000 o flynyddoedd a channoedd o ddiwylliannau gwahanol y byd. Gallwch naill ai dywys eich grŵp o amgylch yr amgueddfa eich hun neu fanteisio ar sgyrsiau a gweithdai'r amgueddfa. Cysylltwch â ni am restr o weithgareddau addysgiadol posib.
Design Museum
Dyma amgueddfa ddylunio fwyaf y DU. Mae'n darparu adnoddau a gweithdai addysg ar gyfer ysgolion. Mae'n edrych ar y dyfodol yn ogystal â'r gorffennol ac yn dathlu cyffro a dyfeisgarwch dylunio, pensaernïaeth a ffasiwn gydol yr ugeinfed ganrif a'r unfed ganrif ar hugain.
National Portrait Gallery
Mae'r Oriel Bortreadau Genedlaethol yn gartref i filoedd o bortreadau o bob math ac o bob cyfnod. Cewch weld portreadau o rai o'r bobl enwocaf yn hanes Prydain o deulu Brenhinol y Tuduriaid i'r Dywysoges Diana, yn ogystal â gwleidyddion, awduron, artistiaid a sêr y byd roc. Mae gan yr oriel raglenni bywiog ac arloesol sy'n edrych ar hanes, celfyddyd a ffotograffiaeth trwy bortreadau; mae gweithgareddau'n cynnwys sesiynau addysgu uniongyrchol yn yr orielau a gweithdai celf a ffotograffiaeth ymarferol. Saif yr oriel mewn lleoliad cyfleus dafliad carreg o Sgwâr Trafalgar a'r Oriel Genedlaethol.
National Gallery
Mae'r Oriel Genedlaethol yn gartref i un o gasgliadau parhaol gorau'r byd o baentiadau Gorllewin Ewrop o 1250 ymlaen. Mae'n cynnwys paentiadau enwog fel 'Blodau'r Haul' gan Van Gogh, 'Fenws a Mars' gan Boticelli a 'Swper yn Emaus' gan Caravaggio. Mae'r Oriel hefyd yn cynnal arddangosfeydd dros dro o waith arlunwyr penodol. Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth am y rhain. Gall grwpiau ysgol gael sgwrs awr o hyd ar thema arbennig am ddim a gellir addasu'r sgyrsiau hyn i fodloni'ch gofynion penodol chi. Mae hefyd modd trefnu sgyrsiau penodol sy'n cyfuno dau bwnc, er enghraifft, Celf/Hanes neu Addysg Grefyddol/Celf.
Dalí Universe
Mae arddangosfa Dalí Universe yn oriel Neuadd y Sir yn cynnwys dros 500 o weithiau gan arlunydd swrrealaidd amlyca'r ugeinfed ganrif. Mae'n cynnwys y casgliad mwyaf o gerfluniau, lluniau, lithograffau a gwrthrychau aur a gwydr gan y dyn ei hun a chasgliad o gelfi a gafodd eu hysbrydoli ganddo. Mae tocynnau i arddangosfa Dalí Universe yn cynnwys mynediad am ddim i Picasso, sef casgliad unigryw o dros 100 o weithiau prin a gweithiau nad ydynt erioed wedi gweld golau dydd cyn hyn, gan y meistr ei hun. Maent yn cynnwys gwaith ceramig, tapestrïau trawiadol, lithograffau ac ysgythriadau, yn ogystal â ffotograffau du a gwyn o'r arlunydd. Nodwch fod Picasso'n cau o dro i dro ar gyfer digwyddiadau preifat.
Orielau'r Tate
Sefydlwyd oriel Tate Modern yn 2000 yng ngorsaf bŵer segur Bankside ac mae'n arddangos casgliad heb ei ail o gelf fodern ryngwladol yn dyddio o 1900 ymlaen. Mae Tate Britain yn gartref i gasgliad mwya'r byd o gelfyddyd Prydain o 1500 hyd heddiw. Mae'r ddwy oriel yn cynnig teithiau tywys a gweithdai mewn maes o'ch dewis neu gallwch arwain y grŵp eich hun o amgylch yr arddangosfeydd. Cysylltwch â ni i drafod eich ymweliad. Gallwch hefyd ddefnyddio gwasanaeth cwch y Tate i deithio o un oriel i'r llall.
Taith Gerdded o amgylch Llundain
Mae cant a mil o bethau gwerth eu gweld yn Llundain. Gan fod y ddinas mor fawr, rydyn ni'n argymell eich bod chi'n dewis taith ar thema benodol i gael y gorau o'r profiad. Yn arbennig, rydyn ni'n argymell taith ar thema Cymru dan ofal arweinydd Bathodyn Glas a fydd yn canolbwyntio ar ddylanwad y Cymry ar hanes y ddinas.
Palas Westminster/Y Senedd
Mae'r Uned Addysg yn trefnu rhaglen o ymweliadau ar gyfer myfyrwyr: Ymweliadau'r Hydref ar gyfer Blynyddoedd 11-13, y rhaglen Discover Parliament ar gyfer Blynyddoedd 8-10 a'r rhaglen Citizenship for the 21st Century ar gyfer Blynyddoedd 3-9 (7-14 oed). Mae'r Uned hefyd yn cynnal cyfres o seneddau ffug ar gyfer myfyrwyr. Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth am yr ymweliadau hyn. Nodwch mai dim ond lle i 32 o fyfyrwyr sydd ym mhob sesiwn a dim ond unwaith yr wythnos y cynhelir rhai o'r sesiynau, felly'r cyntaf i'r felin.
London Dungeons
Ydych chi'n ddigon dewr i fentro i'r dyfnderoedd i ddwnsiynau Llundain? Mae cyfuniad unigryw o hanes, arswyd a hiwmor yn dod ag erchyllterau'r gorffennol yn frawychus o fyw. Byddwch yn barod i gamu i ochr dywyll Llundain.
London Eye Discovery Flight
Cyfle i fwynhau hanes Llundain ar daith 30 munud i fyny fry ar y London Eye. Gallwch weld sut mae digwyddiadau o oes i oes wedi dylanwadu ar orwel presennol Llundain. Cewch ddarganfod adeiladau enwog fel cartref y Prif Weinidog, 10 Downing Street, sy'n anodd eu gweld heb help tywysydd. Bydd cyfle hefyd i glywed hanes difyr y gwaith o adeiladu'r London Eye. Gyda Discovery Flight i ysgolion, bydd tywysydd yn darparu sylwebaeth gynhwysfawr ar y tirnodau allweddol a sut mae'r London Eye yn gweithio. Cysylltwch â ni am amrywiaeth o ddeunydd Cymorth i Athrawon.
Tower Bridge
Yn arddangosfa Tower Bridge, gallwch fwynhau golygfeydd ysblennydd o'r hen rodfeydd ac olrhain hanes y bont a sut cafodd ei hadeiladu trwy fideos ac arddangosfeydd rhyngweithiol. Yna gallwch ymweld â'r Ystafelloedd Injan Fictoraidd, cartref yr injans stêm gwreiddiol a arferai bweru'r bont.
Tŵr Llundain
Tŵr Llundain yw un o gaerau mwyaf rhyfeddol ac enwoca'r byd a dyma lle cedwir Tlysau'r Goron. Gallwch olrhain ei hanes fel palas a chaer frenhinol, carchar a man dienyddio, bathdy, arfdy, milodfa a thŷ tlysau dros y 900 mlynedd diwethaf. Mae i'r Tŵr hefyd gysylltiadau Cymreig - yno y rhoddwyd pen Llywelyn ein Llyw Olaf ar bostyn gan Edward I ym 1282. Mae gwasanaeth addysg y Tŵr yn cynnig cyfres o weithdai o bob math i ddisgyblion, o Gyfnod Allweddol 1 i GNVQ ac A/S. Cysylltwch â ni am fanylion pellach gan fod dyddiadau, amseroedd a phrisiau'r ymweliadau'n amrywio.