London Eye Discovery Flight

Cyfle i fwynhau hanes Llundain ar daith 30 munud i fyny fry ar y London Eye. Gallwch weld sut mae digwyddiadau o oes i oes wedi dylanwadu ar orwel presennol Llundain. Cewch ddarganfod adeiladau enwog fel cartref y Prif Weinidog, 10 Downing Street, sy’n anodd eu gweld heb help tywysydd. Bydd cyfle hefyd i glywed hanes difyr y gwaith o adeiladu’r London Eye. Gyda Discovery Flight i ysgolion, bydd tywysydd yn darparu sylwebaeth gynhwysfawr ar y tirnodau allweddol a sut mae’r London Eye yn gweithio. Cysylltwch â ni am amrywiaeth o ddeunydd Cymorth i Athrawon.