National Gallery
25th February 2019
|By aclouise
Mae’r Oriel Genedlaethol yn gartref i un o gasgliadau parhaol gorau’r byd o baentiadau Gorllewin Ewrop o 1250 ymlaen. Mae’n cynnwys paentiadau enwog fel ‘Blodau’r Haul’ gan Van Gogh, ‘Fenws a Mars’ gan Boticelli a ‘Swper yn Emaus’ gan Caravaggio. Mae’r Oriel hefyd yn cynnal arddangosfeydd dros dro o waith arlunwyr penodol. Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth am y rhain. Gall grwpiau ysgol gael sgwrs awr o hyd ar thema arbennig am ddim a gellir addasu’r sgyrsiau hyn i fodloni’ch gofynion penodol chi. Mae hefyd modd trefnu sgyrsiau penodol sy’n cyfuno dau bwnc, er enghraifft, Celf/Hanes neu Addysg Grefyddol/Celf.