Orielau’r Tate
25th February 2019
|By aclouise
Sefydlwyd oriel Tate Modern yn 2000 yng ngorsaf bŵer segur Bankside ac mae’n arddangos casgliad heb ei ail o gelf fodern ryngwladol yn dyddio o 1900 ymlaen. Mae Tate Britain yn gartref i gasgliad mwya’r byd o gelfyddyd Prydain o 1500 hyd heddiw. Mae’r ddwy oriel yn cynnig teithiau tywys a gweithdai mewn maes o’ch dewis neu gallwch arwain y grŵp eich hun o amgylch yr arddangosfeydd. Cysylltwch â ni i drafod eich ymweliad. Gallwch hefyd ddefnyddio gwasanaeth cwch y Tate i deithio o un oriel i’r llall.