Imperial War Museum Llundain
25th February 2019
|By aclouise
Mae gan yr amgueddfa arddangosfeydd hanesyddol eang ar y ddau ryfel byd gan gynnwys arddangosfa barhaol fwyaf Ewrop ar yr Holocost a gwrthdaro wedi’r rhyfel. Ceir rhaglen ddiddorol o sesiynau addysgol sy’n canolbwyntio ar themâu penodol yr arddangosfeydd. Mae’r rhain yn boblogaidd iawn felly cysylltwch â ni am restr ohonynt i drefnu sesiynau mewn da bryd cyn eich taith.
Ymweliadau cysylltiedig: Amgueddfa Churchill ac Ystafelloedd Rhyfel y Cabinet, Amgueddfa’r Awyrlu Brenhinol