Taith Gerdded o amgylch Llundain
25th February 2019
|By aclouise
Mae cant a mil o bethau gwerth eu gweld yn Llundain. Gan fod y ddinas mor fawr, rydyn ni’n argymell eich bod chi’n dewis taith ar thema benodol i gael y gorau o’r profiad. Yn arbennig, rydyn ni’n argymell taith ar thema Cymru dan ofal arweinydd Bathodyn Glas a fydd yn canolbwyntio ar ddylanwad y Cymry ar hanes y ddinas.