Dalí Universe
25th February 2019
|By aclouise
Mae arddangosfa Dalí Universe yn oriel Neuadd y Sir yn cynnwys dros 500 o weithiau gan arlunydd swrrealaidd amlyca’r ugeinfed ganrif. Mae’n cynnwys y casgliad mwyaf o gerfluniau, lluniau, lithograffau a gwrthrychau aur a gwydr gan y dyn ei hun a chasgliad o gelfi a gafodd eu hysbrydoli ganddo. Mae tocynnau i arddangosfa Dalí Universe yn cynnwys mynediad am ddim i Picasso, sef casgliad unigryw o dros 100 o weithiau prin a gweithiau nad ydynt erioed wedi gweld golau dydd cyn hyn, gan y meistr ei hun. Maent yn cynnwys gwaith ceramig, tapestrïau trawiadol, lithograffau ac ysgythriadau, yn ogystal â ffotograffau du a gwyn o’r arlunydd. Nodwch fod Picasso’n cau o dro i dro ar gyfer digwyddiadau preifat.