Tŵr Llundain
25th February 2019
|By aclouise
Tŵr Llundain yw un o gaerau mwyaf rhyfeddol ac enwoca’r byd a dyma lle cedwir Tlysau’r Goron. Gallwch olrhain ei hanes fel palas a chaer frenhinol, carchar a man dienyddio, bathdy, arfdy, milodfa a thŷ tlysau dros y 900 mlynedd diwethaf. Mae i’r Tŵr hefyd gysylltiadau Cymreig – yno y rhoddwyd pen Llywelyn ein Llyw Olaf ar bostyn gan Edward I ym 1282. Mae gwasanaeth addysg y Tŵr yn cynnig cyfres o weithdai o bob math i ddisgyblion, o Gyfnod Allweddol 1 i GNVQ ac A/S. Cysylltwch â ni am fanylion pellach gan fod dyddiadau, amseroedd a phrisiau’r ymweliadau’n amrywio.