Bowlio Deg

Gweithgaredd perffaith ar gyfer gyda'r nos - cyfle i bawb ymlacio a mwynhau gêm o Fowlio 10.


Paris Miniature

Mae llond gwlad o hwyl i'w gael gyda'r model tri dimensiwn rhyngweithiol cyntaf o Baris! Defnyddiwch y sgriniau a'r sleids pwrpasol i'ch helpu i ddod o hyd i atyniadau mwyaf diddorol y ddinas.


Parc Astérix

Os am ymweld â pharc mwy Ffrengig ei naws, beth am ymweliad â Pharc Asterix? Mae'r parc, sy'n seiliedig ar gymeriadau enwog llyfrau Astérix ac Obelix, yn sicr o fod yn llawer o hwyl ac yn gyfle i roi blas ar ddiwylliant Ffrainc i'r disgyblion.


Tour Montparnasse

Dyma gyfle i weld atyniadau'r ddinas o dŵr tipyn mwy modern na'r Tour Eiffel. Mae'n bosib mynd i fyny yn y lifft i lawr 56 yn y dydd neu gyda'r nos, a gallai gwneud hyn fod yn ffordd arbennig o addas i gadw'r disgyblion yn ddiddig ar ôl iddi dywyllu. O'r uchelfannau, cewch olygfa fendigedig o'r ddinas yn ei chyfanrwydd.


Grévin

Dewch i weld cerfluniau cwyr o rai o enwogion Ffrainc dros y canrifoedd. Cewch gyfarfod â rhai o bwysigion y wlad o'r Oesoedd Canol i'r 19eg Ganrif - o Jeanne d'Arc i Henri IV. Ffordd wych o ddod â hanes y wlad yn fyw.


Musée des Egouts

Bydd ymweld â'r amgueddfa carthffosiaeth yn brofiad cwbl unigryw a fydd yn bendant o ddiddordeb i'r disgyblion. Dechreuodd system carthffosiaeth Paris yn ôl ym 1370, pan adeiladwyd y ffos gyntaf gan Hudgues Aubritot. Wrth ymweld â'r amgueddfa, mae cyfle i weld datblygiad y system hyd heddiw. Saif yr amgueddfa yn un rhan o'r rhwydwaith enfawr o ffosydd, a chaiff ymwelwyr gyfle i ddysgu am yr hyn sy'n digwydd i ddŵr o dan wyneb y ddinas a rôl y gweithwyr carthffosiaeth. (Mae'r amgueddfa ar gau bob dydd Iau a dydd Gwener ac am bythefnos ym mis Ionawr)


Cité des Sciences et de l'Industrie

Lle gwell i fynd â phlant er mwyn iddyn nhw ddysgu am wyddoniaeth a chael hwyl ar yr un pryd? Mae rhannau o'r arddangosfeydd wedi eu hanelu at bobl sydd ag ychydig iawn o wybodaeth o wyddoniaeth, tra bod mannau eraill yn fwy addas ar gyfer myfyrwyr sydd wedi dewis astudio pynciau'r gwyddorau. Explora yw canolbwynt yr holl arddangosfa ac mae'r ardal hon wedi ei hanelu at y rhai sydd â gwybodaeth sylfaenol am wyddoniaeth. Mae'r arddangosfa'n newid yn rheolaidd. Cysylltwch â ni am wybodaeth ynglŷn â'r hyn sydd yno ar hyn o bryd. Mae'r planetariwm wedi ei adnewyddu'n ddiweddar ac yn gyfle gwych i weld y sêr wrth fynd o blaned i blaned a theithio'r gofod.

Yn ogystal â'r arddangosfeydd arbennig, mae gan y ganolfan sinemâu arbennig lle gellir gwerthfawrogi ffilmiau mewn awyrgylch tra gwahanol. Mae lle dan do ar gael i grwpiau fwyta'u picnic.


Batobus

Ffordd gyfleus o deithio rhwng rhai o'r atyniadau, megis y Tŵr Eiffel, Musée d'Orsay, y Louvre a'r Notre-Dame. Yn hytrach na cherdded o un i'r llall, gallwch ddal un o'r cychod sy'n teithio ar hyd afon Seine. Mae'r Batobus yn rhan o drafnidiaeth gyhoeddus y ddinas, yn hytrach na thaith i dwristiaid, ac felly does dim sylwebaeth ar yr atyniadau wrth i chi eu pasio. Ond mae'n ffordd gyfleus o deithio o un lle i'r llall ac mae'n llawer o hwyl! Mae modd prynu tocyn ar gyfer un daith yn unig, neu docyn diwrnod os am ddefnyddio'r gwasanaeth mwy nag unwaith.


Ardal Montmartre a'r Sacré Coeur

Lle gwell i ddod â'r plant i gael gwir flas o awyrgylch fywiog y ddinas nac i ardal Montmartre a'r Place du Tertre y tu allan i eglwys enwog y Sacré Coeur? Mae golygfa odidog o weddill y ddinas i'w gweld o'r sgwâr, ac mae'r lle bob amser yn llawn bwrlwm gyda nifer o artistiaid a cherddorion, yn ogystal â phobl yn gwerthu pob math o greiriau i gofio am y ddinas! Cafodd eglwys hardd y Sacré Coeur ei hadeiladu yn y 19eg Ganrif a phen ucha'r to crwn yw ail fan uchaf Paris ar ôl y Tŵr Eiffel!


Centre Pompidou

Mae Centre Pompidou yn ganolfan sy'n dathlu celf, theatr, llenyddiaeth, cerddoriaeth a sinema fodern. Syniad yr Arlywydd George Pompidou oedd sefydlu'r ganolfan ddiwylliannol a fyddai'n dathlu mynegiant creadigol o bob math. Mae'r adeilad ei hun yn bwysig o safbwynt pensaernïaeth gyfoes, gan iddo gael ei ddylunio gan y penseiri Renzo Piano a Richard Rogers wedi iddynt ennill y cystadleuaeth bensaernïol ryngwladol. Ar ôl gwaith adnewyddu, ail-agorwyd y canolfan ym mis Ionawr 2000 ac ers hynny, mae'n un o'r atyniadau mwyaf poblogaidd yn Ffrainc, gyda chwe miliwn o bobl yn ymweld bob blwyddyn. Mae'r sgwâr y tu allan i'r ganolfan yn lle gwych i eistedd yn gwylio'r bobl sy'n pasio ac yn lle da i fwyta'ch cinio. Mae'r pistyll cyfagos gyda'i gerfluniau diddorol yn werth ei weld yn ystod eich amser ym Mharis.

Ceir un o gasgliadau gorau'r byd o gelfyddyd fodern yn y ganolfan. Mae yno hefyd sinema a chanolfan ymchwil cerdd, ac mae rhan o'r adeilad wedi'i neilltuo'n arbennig ar gyfer gweithgareddau addysgol. Beth bynnag fo'ch diddordeb chi, bydd rhywbeth yn bendant i chi yma.


Trip ar gwch ar yr afon Seine

Pa ffordd well o werthfawrogi dinas Paris nag o gwch ar afon Seine? Cyfle i weld rhai o atyniadau enwocaf y ddinas, gan gynnwys y Tŵr Eiffel, amgueddfa'r Louvre ac eglwys gadeiriol Notre-Dame, a hyn oll o'ch sedd ar y cwch. Mae sylwebaeth mewn nifer o ieithoedd ar gael ar y mwyafrif o'r tripiau.


Disneyland® Resort Paris

Mae ymweliad â Disneyland® Resort Paris yn ffordd wych o gyfuno hwyl gydag addysg. Mae Disney wedi datblygu tri phecyn gwaith sydd yn cwmpasu ystod eang o bynciau y gellir ei lawrlwytho o'u gwefan newydd: www.disneylandparis4schools.com. Mae'r pecynnau wedi eu cynllunio i gefnogi Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru a Lloegr ar gyfer CA3, ond gellir eu haddasu ar gyfer disgyblion iau. Yn ogystal â gweld byd hudol Disney yn dod yn fyw trwy orymdeithiau ac atyniadau Disneyland ® Park, gall grwpiau gynnwys Walt Disney Studios® Park yn eu hymweliad, a chael cyfle i fynd fynd tu ôl i'r llenni a gweld sut y caiff effeithiau arbennig eu creu ar gyfer ffilmiau, teledu a gwaith animeiddio. Yna, beth am orffen eich diwrnod o antur gyda'r sioe Buffalo Bill's Wild West Show? Mae hyd yn oed gyfle i roi naws Cymreig i'ch ymweliad â'r parc, gan fod gŵyl Gymreig yn cael ei threfnu yno bob blwyddyn.

Ym mharc Walt Disney Studios, gallwch weld sut mae effeithiau arbennig yn cael eu creu ar gyfer teledu, ffilm ac animeiddio. Cewch weld yr atyniadau mwyaf newydd a gafodd eu hysbrydoli gan y cynhyrchiadau Disney/Pixar enwog, 'Finding Nemo' a 'Cars', neu fynd ar daith ar y Studio Tram i gael gwir brofiad o sut y caiff ffilm Disney ei gynhyrchu.

Gallwch brynu tocyn Disney Park Hopper un diwrnod neu ddau ddiwrnod ac un ai ymweld â Disneyland Park a'r Walt Disney StudiosPark ar yr un diwrnod, neu aros am ddau ddiwrnod ac ymweld â'r parciau ar ddiwrnodau gwahanol.

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am brisiau tocynnau, sioeau a phecynnau addysgol.


Tour Eiffel

Mae'n bosib mai hwn yw'r tŵr mwyaf adnabyddus yn y byd, ond mae'n llawn mor boblogaidd ag erioed ac yn dal i ddenu heidiau o ymwelwyr bob blwyddyn. Cafodd ei adeiladu'n wreiddiol ym 1889 ar gyfer yr Exposition Universelle. Roedd yn mesur 320m (1050 troedfedd), a hwn oedd yr adeilad uchaf yn y byd tan i'r adeilad Chrysler yn Efrog Newydd gael ei godi. Roedd elit llenyddol ac artistig y ddinas yn gwrthwynebu bodolaeth y tŵr, a bu bron iddo gael ei ddymchwel ym 1909. Ond fe brofodd yn lle defnyddiol iawn i roi'r erials oedd eu hangen ar gyfer yr oes dechnolegol newydd! Gallwch ddringo'r grisiau i gyrraedd yr ail lawr, neu gellir mynd yn y lifft. Pa bynnag ffordd fyddwch chi'n dewis, mae'n rhaid mynd mewn lifft er mwyn mwynhau'r golygfeydd godidog o dop y tŵr.


Notre-Dame de Paris

Eglwys Gadeiriol Notre-Dame yw calon Paris, yng ngwir ystyr y gair. Saif yr eglwys yng nghanol y ddinas, ar yr ynys l'Ile de Cité. Mae hi hefyd wedi bod yn ffocws i Babyddion y ddinas am saith canrif. Safai eglwysi eraill yn yr un man cyn dechrau adeiladu'r Notre-Dame yn 1163. Gorffennwyd y gwaith adeiladu yn y 14eg Ganrif. Mae'r gwaith pensaernîol yn enghraifft wych o adeiladau Gothig yn Ffrainc. Mae'r eglwys yn dal 6000 o bobl ac mae'r ffenestri rhosyn ysblennydd yn werth eu gweld


Musée d'Orsay

Ers 1986, mae'r amgueddfa gelf hon wedi bod yn gartref i gasgliad enfawr o weithiau'r 19eg ganrif, yn ogystal â chasgliad mwyaf Ffrainc o gelf avant-garde o ddechrau'r 20fed ganrif. Cewch weld rhai o ddarluniau mwyaf adnabyddus cyfnod yr Argraffiadwyr, gan gynnwys llun Renoir o olygfa ym Montmartre a darlun Van Gogh o weithiwr yn cymryd hoe yn ystod y prynhawn. Mae'r amgueddfa dipyn llai na'r Louvre ac efallai ychydig yn haws i chi ffeindio'ch ffordd o gwmpas yr adeilad a'r casgliad o weithiau. Cafodd yr adeilad ei adeiladu'n wreiddiol fel gorsaf drenau ond daeth hyn i ben yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Cafodd ei ddefnyddio at nifer o bwrpasau wedi hynny, gan gynnwys canolfan ddosbarthu parseli a lleoliad set ffilmiau megis The Trial gan Kafka. Penderfynwyd troi'r adeilad yn amgueddfa gelf yn y 1970au hwyr ac mae'r adeilad hardd hwn yn lle perffaith i arddangos gweithiau'r meistri.


Amgueddfa'r Louvre

Dyma un o amgueddfeydd enwocaf Paris. Mae'n adnabyddus, wrth gwrs, gan mai hon yw'r amgueddfa sy'n gartref i'r darlun enwog, y Mona Lisa. Ond mae'r amgueddfa hefyd wedi cael llawer o sylw gan y cyfryngau yn sgil y nofel ffuglen hynod boblogaidd, The Da Vinci Code. Mae cyfanswm o 35,000 o weithiau yn cael eu harddangos yn y 60,000 o fetrau sgwâr o fewn yr amgueddfa. Mae modd trefnu bod tywysydd yn dangos y mannau mwyaf perthnasol i chi, yn dibynnu ar yr hyn mae'ch grwp yn ei astudio. Gan fod cymaint o bethau i'w gweld yn yr amgueddfa, mae hi bron yn amhosib gweld popeth.