Mont Saint Michel

Mae abaty Mont St Michel ar ynys fechan iawn nepell o'r arfordir, ar y ffin rhwng Normandi a Llydaw. Mynachdy Benedictine oedd yr adeilad pan sefydlwyd ef yn 966 ond wrth i'w bwysigrwydd fel man addoli leihau, defnyddiwyd yr adeilad i amryw o bethau gan gynnwys carchar yn y 18fed a'r 19eg ganrif! Mae gofal am yr adeilad yn nwylo llywodraeth Ffrainc ers 1874. Pan fo'r llanw'n isel, mae modd i ymwelwyr gerdded at yr ynys a dringo'r ffyrdd cul a serth tuag at yr abaty ar y top ac mae digonedd o siopau a bwytai i'w cael ar y ffordd i fyny i gadw pawb yn hapus.


Musée National de l'Education

Yn yr amgueddfa hon, mae'n bosib dysgu am hanes addysg yn Ffrainc o gyfnod y Dadeni hyd heddiw.


Musée Des Beaux Art, Rouen

Mae'r Musée des Beaux Arts yng nghanol y ddinas yn gartref i un o gasgliadau celfyddydol pwysicaf Ffrainc gyda gwaith crefyddol o'r 16eg ganrif hyd heddiw


Taith Tywys o Amgylch y Dref

Mae sawl taith dywys ar gael yn Rouen a fyddai'n addas ar gyfer sawl pwnc a phob un yn para oddeutu 2 awr. Y daith dywys fwyaf poblogaidd yw'r un o brif atyniadau'r ddinas sy'n tywys yr ymwelydd i Gadeirlan Notre-Dame, Twr y Gros Horloge a'r Place du Vieux Marche ble llosgwyd Jeanne d'Arc.


Rouen

Mae tref Rouen, sef prifddinas Normandi ac ardal Seine-Maritime, yn hynod brydferth ac yn llawn pethau diddorol i'w gweld a'u gwneud. Roedd y ddinas yn agos iawn at galon Victor Hugo ac yn cael ei hadnabod fel "La ville aux cent clochers" sef 'Tref y can clochdy'.


Les Andelys - Chateau Gaillard

Mae golygfeydd godidog o'r chateau trawiadol hwn uwchlaw'r Seine sy'n bwysig iawn yn hanes Normandi. Fe'i adeiladwyd yn y 12fed ganrif gan Rhisiart Lewgalon, Brenin Lloegr a Dug Normandi, ac roedd yn gaer o bwys yn y rhwydwaith eang o gestyll a oedd yn amddiffyn yr ardal. Yn ystod y Rhyfeloedd Crefydd, ar ôl gwarchae dwy flynedd o hyd, fe orchfygwyd Chateau Gaillard gan Harri IV.


Chateau de la Roche-Guyon

Yma yn un o bentrefi prydferthaf Ffrainc, mae Chateau de la Roche-Guyon yn atyniad ardderchog ar gyfer grwpiau Hanes neu Daearyddiaeth. Saif ar ben clogwyni calchfaen yr afon Seine. Mae ei ddaeargelloedd hynafol yng nghrombil y clogwyni, a grisiau wedi eu naddu o'r calchfaen sy'n eu cysylltu â'r castell. Mae modd ymweld âr castel yn nuwch nos hefyd - hynny yw os ydych chi'n ddigon dewr!


Giverny

Yn ardal y Seine y cyhwynnodd Argraffiadaeth, ac yn wir, yma y daeth un o arlunwyr enwocaf y genre yma, Claude Monet, i fyw ym 1883. Gellir ymweld â'i gartref yma yn Giverny a chrwydro'r gerddi i weld y bont enwog sy'n ymddangos yn ei waith


Tapestri Bayeux

Mae'r tapestri yn Bayeux yn hollol unigryw. Cafodd ei greu yn y unfed ganrof ar ddeg, ac mae'n 70 metr o hyd. Trwy ddefnyddio cyfres o luniau, mae'r gwaith yn adrodd hanes Gwilym Goncwerwr wrth iddo deithio i Loegr yn 1066 i orchfyru'r wlad. Mae'r tapestri'n gorffen gyda delweddau o frwydr enwog Hastings ac yna Gwilym yn cael ei goroni'n frenin Lloegr.


Mynwentydd yr Ail Ryfel Byd

Mae modd ymweld â nifer fawr o fynwentydd rhyfel yn yr ardal, gan gynnwys rhai Prydeinig, Americanaidd, Ffrengig ac Almaenig. Ymysg mynwentydd Prydeinig mwya'r ardal, mae Bayeux, Saint-Manvieu a mynwent Ranville ger pont Pegasus. Mae'r fynwent Americanaidd yn Colleville-sur-mer, ger Traeth Omaha, yn arbennig o fawr ac mae'r profiad o fynd yno yn eitha ysgytwol o'r herwydd. Mae 9,386 o feddi yn y fynwent - pob un â chroes wen arno mewn llinellau syth perffaith. Mynwent arall sy'n siwr o greu argraff ar unrhyw un sy'n astudio'r Ail Ryfel Byd yw'r fynwent Almaenig yn La Cambe, lle mae dros 20,000 o Almaenwyr wedi eu claddu mewn grwpiau o bum croes ddu. Cysylltwch â ni os hoffech chi fwy o wybodaeth am y gwahanol fynwentydd, neu os hoffech chi drefnu taith dywys o gwmpas rhai o'r mynwentydd pwysicaf.


Musée du Débarquement, Arromanches

Pan benderfynwyd, ym 1943, y dylai'r byddinoedd Prydeinig ac Americanaidd geisio glanio ar arfordir Ewrop, penderfynwyd mai Normandi fyddai'r lle gorau i ymosod arno gan nad oedd yr Almaenwyr yn disgwyl hynny. Un o'r rhesymau am hyn oedd nad oedd yno borthladdoedd digon mawr i fedru glanio gyda pheiriannau trwm. Rhaid felly oedd adeiladu dau harbwr artiffisial - un yn Arromanches (yn y sector Prydeinig) a'r llall ger Traeth Omaha (yn y sector Americanaidd). Saif yr amgueddfa ar lan y môr, o flaen olion yr harbwr artiffisial oedd yno, sef Mulberry B. Mae'r arddangosfa'n olrhain hanes y Prydeinwyr a lwyddodd i ddefnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf er mwyn adeiladu'r harbwr.


Arromanches 360°

Mae'r ffilm 18 munud yn y sinema uwchben pentref Arromanches yn sicr o ddod â'r rhyfel yn fyw i'r disgyblion. Cewch eich amgylchynu gan y fideo, sy'n ymddangos ar gyfanswm o naw sgrin yn yr ystafell gron - profiad sy'n gwneud i chi deimlo eich bod chi'n rhan o'r brwydro. Mae'r ffilm ei hun yn gyfuniad o ddeunydd fideo gwreiddiol o gyfnod y rhyfel a delweddau o'r ardal fel y mae hi heddiw. Y tu allan i'r sinema, mae modd edrych tua'r môr a dychmygu sut yr oedd hi ar y milwyr oedd yn gwylio o'r mannau uchel. Ar ddiwrnod braf, gall y grwp gerdded i lawr y llwybr i bentref Arromanches os dymunwch, lle gall y bws ddod i'ch cyfarfod.


Musée Pegasus a Phont Pegasus

Ar bont Pegasus y glaniodd gliders y 6th Airborne Division yn ganol y nos rhwng y 5ed a'r 6ed o Fehefin, 1944. Mae'r digwyddiad yn parhau i fod yn arwyddocaol gan mai hon oedd buddugoliaeth gyntaf lluoedd y Cynghreiriaid. Bellach mae amgueddfa newydd ger y bont ac mae yna arddangosfeydd yn coffáu milwyr y 6th Airborne Division.


Caen Mémorial

Agorwyd yr amgueddfa hon ar 6 Mehefin, 1988, ac mae hi'n canolbwyntio'n arbennig ar hanes yr ugeinfedfed ganrif. Mae tri phwnc canolog yn yr arddangosfa, sef yr Ail Ryfel Byd, cyfnod y Rhyfel Oer a'r nod o gael heddwch byd-eang. Yn y trydydd rhan, mae'n annog ymwelwyr i roi ystyriaeth i'r syniad o heddwch ac yn ein hatgoffa mor fregus yw heddwch bob amser. Mae'r amgueddfa yn cyflwyno gwybodaeth mewn ffordd ddiddorol ac yn ceisio gwneud yr arddangosfeydd yn berthnasol i fywyd cyfoes. Yn 2006, agorwyd arddangosfa barhaol newydd sy'n ystyried pwysigrwydd olew yn y byd ac sy'n gofyn sut fyddai modd byw heb yr adnodd gwerthfawr hwn.


Musée Des Beaux Arts, Caen

Mae amrywiaeth eang o weithiau yn cael eu arddangos yn yr amgueddfa gelf yn Caen - o baentiadau gan aristiaid Eidaleg a Fflemeg yn y 15fed ganrif i weithiau modern gan artistiaid o Ffrainc. Ymhlith y rhai mwyaf adnabyddus mae gwaith gan Poussin, Géricault a Monet.


Caen

    Cafodd dinas Caen, prifddinas ardal Basse Normandie, ei difrodi'n enbyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ac ychydig iawn o adeiladau gwreiddiol y ddinas sy'n dal i sefyll. Er hynny, mae ambell i adeilad yn werth ei weld, fel yr eglwysi enwog l'Abbaye des Hommes a l'Abbaye des Femmes, ac mae'r amgueddfa gelf a'r Caen Mèmorial yn ddau reswm pendant dros ymweld â'r lle.