Mynwentydd yr Ail Ryfel Byd

Mae modd ymweld â nifer fawr o fynwentydd rhyfel yn yr ardal, gan gynnwys rhai Prydeinig, Americanaidd, Ffrengig ac Almaenig. Ymysg mynwentydd Prydeinig mwya’r ardal, mae Bayeux, Saint-Manvieu a mynwent Ranville ger pont Pegasus. Mae’r fynwent Americanaidd yn Colleville-sur-mer, ger Traeth Omaha, yn arbennig o fawr ac mae’r profiad o fynd yno yn eitha ysgytwol o’r herwydd. Mae 9,386 o feddi yn y fynwent – pob un â chroes wen arno mewn llinellau syth perffaith. Mynwent arall sy’n siwr o greu argraff ar unrhyw un sy’n astudio’r Ail Ryfel Byd yw’r fynwent Almaenig yn La Cambe, lle mae dros 20,000 o Almaenwyr wedi eu claddu mewn grwpiau o bum croes ddu. Cysylltwch â ni os hoffech chi fwy o wybodaeth am y gwahanol fynwentydd, neu os hoffech chi drefnu taith dywys o gwmpas rhai o’r mynwentydd pwysicaf.