Parc Bagatelle
Beth am ddiwrnod llawn hwyl yn y parc hamdden hwn ar thema clowniau? Gallwch fentro ar reidiau dŵr, trenau cyflym a llong fawr sy'n siglo yn ôl ac ymlaen. Mae'r parc yn addas ar gyfer disgyblion iau hyd at flwyddyn 9.
Taith dywys o gwmpas Boulogne
Rydyn ni'n argymell taith gerdded o amgylch hen dref Boulogne gyda'i rhagfuriau canoloesol, strydoedd cobls troellog, castell ac eglwys gadeiriol. Bydd tywysydd yn adrodd hanes difyr y dref brydferth hon yn Saesneg. Mae'r daith yn para awr a hanner.
Chocolaterie
Yn ystod yr ymweliad hwn, cewch ddysgu am y broses o wneud siocled, gan olrhain hanes siocled o'r cychwyn cyntaf, clywed mwy am y rysáit a gweld sut mae'n cael ei wneud â llaw yn y chocolaterie. Ac wrth gwrs, bydd cyfle i brofi'r cynnyrch a phrynu danteithion yn y siop.
Pryd o fwyd yn Boulogne
Ffordd wych o gael hoe a chael blas ar fwyd Ffrengig. Beth am Croque Monsieur neu crêpe sawrus i aros pryd? Y ffefryn lleol yw "le Welsh", fersiwn Ffrainc o'r Welsh rarebit traddodiadol! Beth am berswadio'ch disgyblion i archebu eu bwyd yn Ffrangeg?
Soirée Crêpes
Gallwch ymweld â chaffi Ffrengig lleol nodweddiadol i fwynhau crêpe blasus a chael cyfle i roi cynnig ar wneud eich crêpe eich hun dan lygaid gwyliadwrus y staff. Cyfle heb ei ail i ymarfer eich Ffrangeg a'ch coginio!
Nausicaa
Mae Nausicaa yn lle unigryw lle gallwch ddarganfod bywyd y môr. Mae'n Ganolfan ddifyr, addysgiadol a gwyddonol sy'n canolbwyntio'n bennaf ar y berthynas rhwng Pobl a'r Môr. Nod y ganolfan yw codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o bwysigrwydd rheoli'r moroedd a'u hadnoddau.
Fferm laeth
Dyma ffordd wych o gael blas ar fferm go iawn a rhyfeddu at fridiau prin o wartheg a defaid. Mae taith o'r fferm yn cynnwys ymweliad â'r beudy lle caiff y lloi eu bwydo a'r fuches ei godro. Defnyddir technegau modern i brosesu'r cynnyrch. Mae'r ymweliad yn ffordd dda o gyflwyno fferm fodern i'r rhai sy'n anghyfarwydd â'r byd amaeth ac mae'n gyfle i bawb ddysgu am ffermio cynaliadwy. Mae siop y fferm yn gwerthu cynnyrch y fferm yn ogystal â llysiau, cawsiau a chyffeithiau lleol. Gall ymwelwyr flasu llaeth neu iogwrt y fferm neu sudd ffrwythau lleol.
Boulangerie
Dyma gyfle i ymweld â becws traddodiadol i weld sut mae bara poblogaidd Ffrainc fel y baguette a'r pain de campagne yn cael eu crasu. Cewch dreulio amser yn yr hen fecws gyda'i bopty tân coed a gweld teisennau'n cael eu pobi yn y poptai modern. Bydd cyfle i'ch grŵp roi cynnig ar wneud croissants a chael blas ar rai o'r danteithion. (Nodwch nad yw'r ymweliad hwn yn addas ar gyfer pobl ag alergedd difrifol i gnau).