Boulangerie

Dyma gyfle i ymweld â becws traddodiadol i weld sut mae bara poblogaidd Ffrainc fel y baguette a’r pain de campagne yn cael eu crasu. Cewch dreulio amser yn yr hen fecws gyda’i bopty tân coed a gweld teisennau’n cael eu pobi yn y poptai modern. Bydd cyfle i’ch grŵp roi cynnig ar wneud croissants a chael blas ar rai o’r danteithion. (Nodwch nad yw’r ymweliad hwn yn addas ar gyfer pobl ag alergedd difrifol i gnau).