Chocolaterie

Yn ystod yr ymweliad hwn, cewch ddysgu am y broses o wneud siocled, gan olrhain hanes siocled o’r cychwyn cyntaf, clywed mwy am y rysáit a gweld sut mae’n cael ei wneud â llaw yn y chocolaterie. Ac wrth gwrs, bydd cyfle i brofi’r cynnyrch a phrynu danteithion yn y siop.