Fferm laeth

Dyma ffordd wych o gael blas ar fferm go iawn a rhyfeddu at fridiau prin o wartheg a defaid. Mae taith o’r fferm yn cynnwys ymweliad â’r beudy lle caiff y lloi eu bwydo a’r fuches ei godro. Defnyddir technegau modern i brosesu’r cynnyrch. Mae’r ymweliad yn ffordd dda o gyflwyno fferm fodern i’r rhai sy’n anghyfarwydd â’r byd amaeth ac mae’n gyfle i bawb ddysgu am ffermio cynaliadwy. Mae siop y fferm yn gwerthu cynnyrch y fferm yn ogystal â llysiau, cawsiau a chyffeithiau lleol. Gall ymwelwyr flasu llaeth neu iogwrt y fferm neu sudd ffrwythau lleol.