Mont Saint Michel

Mae abaty Mont St Michel ar ynys fechan iawn nepell o’r arfordir, ar y ffin rhwng Normandi a Llydaw. Mynachdy Benedictine oedd yr adeilad pan sefydlwyd ef yn 966 ond wrth i’w bwysigrwydd fel man addoli leihau, defnyddiwyd yr adeilad i amryw o bethau gan gynnwys carchar yn y 18fed a’r 19eg ganrif! Mae gofal am yr adeilad yn nwylo llywodraeth Ffrainc ers 1874. Pan fo’r llanw’n isel, mae modd i ymwelwyr gerdded at yr ynys a dringo’r ffyrdd cul a serth tuag at yr abaty ar y top ac mae digonedd o siopau a bwytai i’w cael ar y ffordd i fyny i gadw pawb yn hapus.