Les Andelys – Chateau Gaillard

Mae golygfeydd godidog o’r chateau trawiadol hwn uwchlaw’r Seine sy’n bwysig iawn yn hanes Normandi. Fe’i adeiladwyd yn y 12fed ganrif gan Rhisiart Lewgalon, Brenin Lloegr a Dug Normandi, ac roedd yn gaer o bwys yn y rhwydwaith eang o gestyll a oedd yn amddiffyn yr ardal. Yn ystod y Rhyfeloedd Crefydd, ar ôl gwarchae dwy flynedd o hyd, fe orchfygwyd Chateau Gaillard gan Harri IV.