Caen Mémorial

Agorwyd yr amgueddfa hon ar 6 Mehefin, 1988, ac mae hi’n canolbwyntio’n arbennig ar hanes yr ugeinfedfed ganrif. Mae tri phwnc canolog yn yr arddangosfa, sef yr Ail Ryfel Byd, cyfnod y Rhyfel Oer a’r nod o gael heddwch byd-eang. Yn y trydydd rhan, mae’n annog ymwelwyr i roi ystyriaeth i’r syniad o heddwch ac yn ein hatgoffa mor fregus yw heddwch bob amser. Mae’r amgueddfa yn cyflwyno gwybodaeth mewn ffordd ddiddorol ac yn ceisio gwneud yr arddangosfeydd yn berthnasol i fywyd cyfoes. Yn 2006, agorwyd arddangosfa barhaol newydd sy’n ystyried pwysigrwydd olew yn y byd ac sy’n gofyn sut fyddai modd byw heb yr adnodd gwerthfawr hwn.