Musée du Débarquement, Arromanches
26th February 2019
|By aclouise
Pan benderfynwyd, ym 1943, y dylai’r byddinoedd Prydeinig ac Americanaidd geisio glanio ar arfordir Ewrop, penderfynwyd mai Normandi fyddai’r lle gorau i ymosod arno gan nad oedd yr Almaenwyr yn disgwyl hynny. Un o’r rhesymau am hyn oedd nad oedd yno borthladdoedd digon mawr i fedru glanio gyda pheiriannau trwm. Rhaid felly oedd adeiladu dau harbwr artiffisial – un yn Arromanches (yn y sector Prydeinig) a’r llall ger Traeth Omaha (yn y sector Americanaidd). Saif yr amgueddfa ar lan y môr, o flaen olion yr harbwr artiffisial oedd yno, sef Mulberry B. Mae’r arddangosfa’n olrhain hanes y Prydeinwyr a lwyddodd i ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf er mwyn adeiladu’r harbwr.