Arromanches 360°

Mae’r ffilm 18 munud yn y sinema uwchben pentref Arromanches yn sicr o ddod â’r rhyfel yn fyw i’r disgyblion. Cewch eich amgylchynu gan y fideo, sy’n ymddangos ar gyfanswm o naw sgrin yn yr ystafell gron – profiad sy’n gwneud i chi deimlo eich bod chi’n rhan o’r brwydro. Mae’r ffilm ei hun yn gyfuniad o ddeunydd fideo gwreiddiol o gyfnod y rhyfel a delweddau o’r ardal fel y mae hi heddiw. Y tu allan i’r sinema, mae modd edrych tua’r môr a dychmygu sut yr oedd hi ar y milwyr oedd yn gwylio o’r mannau uchel. Ar ddiwrnod braf, gall y grwp gerdded i lawr y llwybr i bentref Arromanches os dymunwch, lle gall y bws ddod i’ch cyfarfod.