Amgueddfa’r Louvre

Dyma un o amgueddfeydd enwocaf Paris. Mae’n adnabyddus, wrth gwrs, gan mai hon yw’r amgueddfa sy’n gartref i’r darlun enwog, y Mona Lisa. Ond mae’r amgueddfa hefyd wedi cael llawer o sylw gan y cyfryngau yn sgil y nofel ffuglen hynod boblogaidd, The Da Vinci Code. Mae cyfanswm o 35,000 o weithiau yn cael eu harddangos yn y 60,000 o fetrau sgwâr o fewn yr amgueddfa. Mae modd trefnu bod tywysydd yn dangos y mannau mwyaf perthnasol i chi, yn dibynnu ar yr hyn mae’ch grwp yn ei astudio. Gan fod cymaint o bethau i’w gweld yn yr amgueddfa, mae hi bron yn amhosib gweld popeth.