Tour Montparnasse

Dyma gyfle i weld atyniadau’r ddinas o dŵr tipyn mwy modern na’r Tour Eiffel. Mae’n bosib mynd i fyny yn y lifft i lawr 56 yn y dydd neu gyda’r nos, a gallai gwneud hyn fod yn ffordd arbennig o addas i gadw’r disgyblion yn ddiddig ar ôl iddi dywyllu. O’r uchelfannau, cewch olygfa fendigedig o’r ddinas yn ei chyfanrwydd.