Notre-Dame de Paris

Eglwys Gadeiriol Notre-Dame yw calon Paris, yng ngwir ystyr y gair. Saif yr eglwys yng nghanol y ddinas, ar yr ynys l’Ile de Cité. Mae hi hefyd wedi bod yn ffocws i Babyddion y ddinas am saith canrif. Safai eglwysi eraill yn yr un man cyn dechrau adeiladu’r Notre-Dame yn 1163. Gorffennwyd y gwaith adeiladu yn y 14eg Ganrif. Mae’r gwaith pensaernîol yn enghraifft wych o adeiladau Gothig yn Ffrainc. Mae’r eglwys yn dal 6000 o bobl ac mae’r ffenestri rhosyn ysblennydd yn werth eu gweld