Tour Eiffel

Mae’n bosib mai hwn yw’r tŵr mwyaf adnabyddus yn y byd, ond mae’n llawn mor boblogaidd ag erioed ac yn dal i ddenu heidiau o ymwelwyr bob blwyddyn. Cafodd ei adeiladu’n wreiddiol ym 1889 ar gyfer yr Exposition Universelle. Roedd yn mesur 320m (1050 troedfedd), a hwn oedd yr adeilad uchaf yn y byd tan i’r adeilad Chrysler yn Efrog Newydd gael ei godi. Roedd elit llenyddol ac artistig y ddinas yn gwrthwynebu bodolaeth y tŵr, a bu bron iddo gael ei ddymchwel ym 1909. Ond fe brofodd yn lle defnyddiol iawn i roi’r erials oedd eu hangen ar gyfer yr oes dechnolegol newydd! Gallwch ddringo’r grisiau i gyrraedd yr ail lawr, neu gellir mynd yn y lifft. Pa bynnag ffordd fyddwch chi’n dewis, mae’n rhaid mynd mewn lifft er mwyn mwynhau’r golygfeydd godidog o dop y tŵr.