Cité des Sciences et de l’Industrie
Lle gwell i fynd â phlant er mwyn iddyn nhw ddysgu am wyddoniaeth a chael hwyl ar yr un pryd? Mae rhannau o’r arddangosfeydd wedi eu hanelu at bobl sydd ag ychydig iawn o wybodaeth o wyddoniaeth, tra bod mannau eraill yn fwy addas ar gyfer myfyrwyr sydd wedi dewis astudio pynciau’r gwyddorau. Explora yw canolbwynt yr holl arddangosfa ac mae’r ardal hon wedi ei hanelu at y rhai sydd â gwybodaeth sylfaenol am wyddoniaeth. Mae’r arddangosfa’n newid yn rheolaidd. Cysylltwch â ni am wybodaeth ynglŷn â’r hyn sydd yno ar hyn o bryd. Mae’r planetariwm wedi ei adnewyddu’n ddiweddar ac yn gyfle gwych i weld y sêr wrth fynd o blaned i blaned a theithio’r gofod.
Yn ogystal â’r arddangosfeydd arbennig, mae gan y ganolfan sinemâu arbennig lle gellir gwerthfawrogi ffilmiau mewn awyrgylch tra gwahanol. Mae lle dan do ar gael i grwpiau fwyta’u picnic.