Musée d’Orsay

Ers 1986, mae’r amgueddfa gelf hon wedi bod yn gartref i gasgliad enfawr o weithiau’r 19eg ganrif, yn ogystal â chasgliad mwyaf Ffrainc o gelf avant-garde o ddechrau’r 20fed ganrif. Cewch weld rhai o ddarluniau mwyaf adnabyddus cyfnod yr Argraffiadwyr, gan gynnwys llun Renoir o olygfa ym Montmartre a darlun Van Gogh o weithiwr yn cymryd hoe yn ystod y prynhawn. Mae’r amgueddfa dipyn llai na’r Louvre ac efallai ychydig yn haws i chi ffeindio’ch ffordd o gwmpas yr adeilad a’r casgliad o weithiau. Cafodd yr adeilad ei adeiladu’n wreiddiol fel gorsaf drenau ond daeth hyn i ben yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Cafodd ei ddefnyddio at nifer o bwrpasau wedi hynny, gan gynnwys canolfan ddosbarthu parseli a lleoliad set ffilmiau megis The Trial gan Kafka. Penderfynwyd troi’r adeilad yn amgueddfa gelf yn y 1970au hwyr ac mae’r adeilad hardd hwn yn lle perffaith i arddangos gweithiau’r meistri.