Ardal Montmartre a’r Sacré Coeur

Lle gwell i ddod â’r plant i gael gwir flas o awyrgylch fywiog y ddinas nac i ardal Montmartre a’r Place du Tertre y tu allan i eglwys enwog y Sacré Coeur? Mae golygfa odidog o weddill y ddinas i’w gweld o’r sgwâr, ac mae’r lle bob amser yn llawn bwrlwm gyda nifer o artistiaid a cherddorion, yn ogystal â phobl yn gwerthu pob math o greiriau i gofio am y ddinas! Cafodd eglwys hardd y Sacré Coeur ei hadeiladu yn y 19eg Ganrif a phen ucha’r to crwn yw ail fan uchaf Paris ar ôl y Tŵr Eiffel!