Centre Pompidou
Mae Centre Pompidou yn ganolfan sy’n dathlu celf, theatr, llenyddiaeth, cerddoriaeth a sinema fodern. Syniad yr Arlywydd George Pompidou oedd sefydlu’r ganolfan ddiwylliannol a fyddai’n dathlu mynegiant creadigol o bob math. Mae’r adeilad ei hun yn bwysig o safbwynt pensaernïaeth gyfoes, gan iddo gael ei ddylunio gan y penseiri Renzo Piano a Richard Rogers wedi iddynt ennill y cystadleuaeth bensaernïol ryngwladol. Ar ôl gwaith adnewyddu, ail-agorwyd y canolfan ym mis Ionawr 2000 ac ers hynny, mae’n un o’r atyniadau mwyaf poblogaidd yn Ffrainc, gyda chwe miliwn o bobl yn ymweld bob blwyddyn. Mae’r sgwâr y tu allan i’r ganolfan yn lle gwych i eistedd yn gwylio’r bobl sy’n pasio ac yn lle da i fwyta’ch cinio. Mae’r pistyll cyfagos gyda’i gerfluniau diddorol yn werth ei weld yn ystod eich amser ym Mharis.
Ceir un o gasgliadau gorau’r byd o gelfyddyd fodern yn y ganolfan. Mae yno hefyd sinema a chanolfan ymchwil cerdd, ac mae rhan o’r adeilad wedi’i neilltuo’n arbennig ar gyfer gweithgareddau addysgol. Beth bynnag fo’ch diddordeb chi, bydd rhywbeth yn bendant i chi yma.